Newyddion Diweddaraf Gwylfa Maes ac Adar Ynys Enlli
04/12/2010
Yn anffodus nid oes llawer wedi bod yn defnyddio y safle yma ac felly rydym wedi penderfynu ar ol blwyddyn peidio cario ymlaen i gyfieithu. Diolch i'r rhai ohonoch sydd wedi bod yn ei ddefnyddio.
28/11/2010
Dydd Gwener Tachwedd 26ain.
Diwrnod tawelach na ddoe. Gwelwyd Cornchwiglen, 15 Mwyalchen, 14 Bronfraith, Coch dan Adain, Socan Eira.
Sefydlwyd Gwylfa Maes ac Adar Ynys Enlli yn 1953.
Daeth criw o wylwyr adar o ganolbarth Lloegr i'r ynys am wyliau a gweld bod y lle yn ddelfrydol ar gyfer astuduio adar a bywyd gwyllt yn gyffredinol.
Cafodd y Wylfa ei sefydlu gan aelodau o sawl clwb adar sef y 'Birmingham and West Midland Bird Club', 'West Wales Field Society', preswylwyr yr ynys a phobl oedd a diddordeb mewn sefydlu gwylfa adar o sir Gaernarfon. Yn dilyn hyn, cafodd 'Ymddiriedolaeth Ynys Enlli' ei ffurfio ar ol i'r ynys ddod ar werth yng nghanol y 70au. Aelodau o'r Wylfa a rhai o drigolion Gwynedd wnaeth brynu yr ynys a ffurfio yr Ymddiriedolaeth. Eu prif bwrpas yw i gadw'r treftadaeth a'r hanes naturiol sydd i'r ynys yn fyw. Gwylfa Maes ac Adar Ynys Enlli yw'r unig Wylfa archredig yng Nghymru ac yn un o ugain drwy Brydain sy'n rhwydweithio a'u gilydd ac yn tyfu o hyd. Mae'r Wylfa yn elusen gofrestredig.