17/02/2010

Wythnos Chwefror 9ed - 16eg

Dydd Mawrth Chwefror 16eg.
Mae'r wythnos yma wedi bod yn ddistawach gydag ychydig o adar o gwmpas. Erbyn hyn mae mwy o boblogaeth o adar ar yr ochr ddwyreiniol ac mae i fyny i 280 o Wylogod, 120 Llurs, 21 Mulfran Werdd a 46 o Aderyn Drycin y Graig yn hedfan o gwmpas ac ar lethrau y creigiau. Mae'r Dryw Penfflamgoch yn dal o gwmpas y coed Pin yng Nghristin. Bum i ffwrdd o Ddydd Gwener tan Ddydd Sul a chyn hynny doedd ond ychydig o adar o gwmpas.Dydd Iau gwelwyd Pibydd yr Aber yn dilyn Gylfinir a 3 Trochydd Gyddfgoch yn bwydo gyda haid o Mulfran Werdd nepell o Garreg yr Honwy.Ar fy ffordd yn ol o'r tir mawr gwelais geiliog Hwyaden Frongoch yn hedfan tuag at yr Ynys ond ni welwyd o yn unlle wedyn.

No comments: