21/09/2010


Medi 10ed.

Roedd yn ddiwrnod gwyntog arall heddiw a treuliwyd llawer o amser yn gwylio adar o'r guddfan. Gwelwyd llawer o Rostog Gynffonfrith drwy'r dydd tua 97 i gyd. 300 o For Wenoliaid, 20 Mowennol Bigddu, 1 Morwennol Ddu, 2 Aderyn Drycin y Baleares, 11 Sgiwen y Gogledd, Sgiwen fawr, 2 Chwiwell. gwelwyd llawer o wenoliaid yn symud yn y bore tua 450 yn mynd i'r De. Ar y traeth gwelwyd 8 Pibydd yr Aber, 3 Pibydd y Tywod,10 Pibydd y Mawn, 2 Pibydd Cyffredin. 24 Tinwen, Cog yn bwydo ar lindys Blaen Brigyn yn y blanhigfa.

No comments: