Dydd Sadwrn Mai 1af.
Diwrnod tawel a phleserus gydag ychydig o adar.O'r diwedd roedd Telor yr Ardd wedi cyrraedd heddiw. Turtur yn y caeau ar, a Siglen ar Solfach cafwyd trafodaeth pa un oedd hon.Cofnodwyd 21 Telor Penddu yn cynnwys 11 a fodrwywyd yng Nghristin, teloriaid eraill oedd 6 Gyddfwen, 7 Telor yr hesg, 2 Droellwr bach, 6 Siff Saff a 22 Delor yr helyg. Gwelwyd 180 o wenoliaid, 16 Gwennol y Glennydd a 12 Gwennol y Bondo yn hedfan i'r gogledd. Roedd 2 Mor wennol bigddu yn ymyl Solfach ac roedd Rhostog Gynffonfrith yn dal ar y traeth a cofnodwyd 21 Siglen Wen a 28 Tinwen.Roedd ychydig o linosiaid yn dal i symud yn y bore yn cynnwys 15 Asgell fraith, 15 Nico, 6 Pila Gwyrdd, 2 Llinos Werdd a Llinos bengoch leiaf.
No comments:
Post a Comment