Dydd Sul Mai 2il
Mae'r gwynt yn dal yn y gogledd ac felly nid oeddem yn disgwyl llawer o adar. Cofnodwyd Crec yr Eithin a Gyddfwen leiaf at restr eleni. Gwelwyd Sgiwen Fawr yn hedfan dros y mynydd yn cael sylw gan y gwylanod.Roedd Turtur a Turtur Dorchog, Gwylan Gyffredin a 3 Morwennol Bigddu yn pasio heibio ac roedd Cudyll yn y rhan Gogleddol. Gwelwyd 12 Tinwen, 18 Siglen Wen, 80 Wennol, 11 Gwennol y Bondo, 7 Gwennol y Glennydd, Telor y Gwair, 8 Telor yr Hesg, 8 Telor penddu, 3 Gyddfwen,Telor yr Ardd, 13 Telor yr Helyg a 5 Siff Saff.Gwelwyd Ydfran, 28 Nico,, 2 Pila gwyrdd, 2 llinos Werdd a Llinos Bengoch yn y bore.Daliwyd a modrwywyd Rhostog Gynffonfrith ar draeth Solfach ar ol iddi dywyllu.
No comments:
Post a Comment