Yr adeg yma o'r flwyddyn mae'r staff yn mynd ar eu gwyliau, y warden a'r teulu a Richard Else.Fel arfer ychydig o adar sy'n symud ac mae hi'n weddol dawel. Maent yn haeddu seibiant ar ol bod mor brysur.
Mae'n braf gweld yr holl adar sydd wedi nythu o gwmpas gyda'u cywion. 323 o Llurs wedi eu modrwyo sef mwy o 50 nag mewn tymor o'r blaen. Ar drip cwch gwelwyd 100 Pal, 1000 o Wylogod ar ochr y clogwyni, 100 o gywion gwylanod Penwaig. gwelir teuluoedd o Hebog Tramor a Brain Coesgoch o gwmpas, Cwtiad Torchog, Piod y Mor swnllyd, Gyddfwen, Siff Saff, Telor yr Hesg yn brysur yn bwydo a'r Wenoliaid gydag ail nythiad.
Dydd Iau Gorffennaf 1af
26 Creyr Glas, Pibydd y Dorlan, telor y Gwair, Parakeet.
Dydd Mercher 30ain Mehefin
Ar y diwrnod olaf o Fehefin gwelwyd 28 Gwennol Ddu, 27 Mor Hwyaden Ddu, Creyr Glas.
06/07/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment