28/12/2009

Ar y cyfan mae wedi bod yn wythnos dawel arwahan i'r Dryw Penfflamgoch a'r Tingoch Du.
Dydd Sul Rhagfyr 20ed. Diwrnod tawel arwahan i 2 Giach Fach.
Dydd Llun Rhagfyr 21ain. Dim
Dydd Mawrth Rhagfyr 22ain. Dim
Dydd Mercher Rhagfyr 23ain. Gwelwyd Creyr Glas yn hedfan yng nghanol yr ynys a 2 Hugan allan ar y mor.
Dydd Iau Rhagfyr 24ain. Gwelwyd 28 Cornchwiglen.
Dydd Gwener Rhagfyr 25ain. Hedfanodd Hwyaden yr Eithin ar hyd ochr orllewinol yr ynys a gwelwyd Cwtiad Llwyd ar Garreg yr Honwy.
Dydd Sadwrn Rhagfyr 26ain. Roedd y Cwtiad Llwyd yn dal o gwmpas.

No comments: