Dyma sydd wedi bod yn digwydd ar yr Ynys ar ol i Steve, Emma, Connor, Richard Brown a Richard Else adael.
Tachwedd 30ain. Roedd yna Binc y Mynydd ar ein safle bwydo a gyda'r adar oedd yn bwydo gwelwyd Mor Wennol y Gogledd, 2 Wylan Fechan a 2 Wylan Mor y Canoldir.
Rhagfyr 1af. Diwrnod tawel gydag 1 Pinc y Mynydd, a Gwylan fechan oedd yr uchafbwynt.
Rhagfyr 2il. Dim i'w adrodd.
Rhagfyr 3ydd. Dim
Rhagfyr 4ydd. Roedd Pinc y Mynydd yn bwydo heddiw eto ac roedd Mor Wennol y Gogledd yn dal gyda'r adar oedd yn bwydo.
Rhagfyr 5ed.Dim
Rhagfyr 6ed.2 Wylan fechan a Thitw Tomos Las oedd yr uchafbwynt.
Rhagfyr 7ed. 2 Wylan Fechan a Hugan allan ar y mor gyda Phinc y Mynydd a 2 ehedydd ar y tir.
Rhagfyr 8ed.Diwrnod tawel heddiw gyda 2 Wylan Fach yr uchafbwynt.
Rhagfyr 9ed. Gwylan Mor y Canoldir a Gwylan Fechan allan ar y mor, hedfannodd Trochydd Mawr dros y tir cul ac roedd Trochydd Gyddfgoch yn ymyl carreg yr Honwy.Gwelwyd Cyffylog hefyd.
Rhagfyr 10eg.Gwelwyd Corchwiglen ar y traeth, Gwylan Mor y Canoldir allan ar y mor a Siff Saff yn Nant.
Rhagfyr 11eg. Gwelwyd Hwyaden yr Eithin yn Solfach a 2 Gyffylog yn Nant.
Rhagfyr 12ed.Gwelwyd 4 Gwylan Mor y Canoldir a 2 Wylan Fechan, hefyd Trochydd Gyddfgoch ger Carreg yr Honwy a Chwtiad Torchog yn Solfach.
23/12/2009
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment