23/12/2009

Yn ystod misoedd y gaeaf fe fydd y blog yn cael ei ddiweddaru unwaith yr wythnos gan Ben Porter sydd yn adarydd ifanc ac yn byw ar yr ynys ar hyd y flwyddyn efo'i deulu ar fferm Ty Pellaf. Fel arfer mae wrth ei fodd yn chwilio am adar os nad yw yn gwneud ei waith ysgol.Mae wedi addo gadael i ni wybod beth sydd yn mynd ymlaen ar yr ynys a beth mae'n ei weld.Cofiwch edrych ar ei hanes a fu yn Llanw Llyn mis Rhagfyr ar y safle Cymraeg i gael mwy o wybodaeth amdano.


Am weddill y flwyddyn cewch wybodaeth yn ddyddiol os bydd yna rhywbeth i'w adrodd.Fel arfer Richard Else sydd yn rhoi y wybodaeth ar y safle,(os yw amser yn caniatau iddo wneud hyn) mae'n dibynu ar beth mae'n ei weld.


No comments: