01/03/2010

Dydd Llun Mawrth 1af
Gorffennodd Chwefror yn ddistaw heb lawer o adar o gwmpas. Serch hynny mae'n braf cael gweld y Trochydd Gyddfgoch allan ar y mor. Gobeithio y daw y Gwanwyn yn gynnar ym Mawrth a dod a llawer iawn o adar i'r Ynys.
Drwy gydol yr wythnos gwelwyd o leiaf un Giach bach yn y tiroedd gwlyb. Gwelwyd y Trochydd Gyddfgoch yn bwydo ger Carreg yr Honwy. Roedd yna 3 ar yr 22ain a'r 23ain. Ar yr 22ain roedd yna Gwtiad Torchog yn Solfach, a gwelwyd Pibydd yr Aber yn dilyn haid o Gylfinir ar y 23ain. Roedd yna Tingoch Du y Mhen Cristin ar y 25ain ac un arall yn Henllwyn ar y 27ain.Daeth Cyffylog allan o'r rhedyn ar y mynydd ar y 27ain tra gwelwyd 16 Cwtiad Aur yn hedfan yn uchel dros yr ynys ar ddydd Sadwrn.Roedd y Dryw Penfflamgoch yn dal yng Ngristin fel arfer.

Dydd Llun Mawrth 1af, gwelwyd y Trochydd Gyddfgoch oddi ar yr ochr Orllewinol a Giach Fach yn y tiroedd gwlyb.Ar ol yr ysgol es i'r ardd a gwelais Farcud Coch yn cael ei erlid gan frain uwchben caeau Dyno Goch.Fe hedfanodd dros fy mhen ac i fyny tuag at Pen Cristin ond ni welwyd o wedyn.

No comments: