Dydd Sul Mawrth 7ed.
Mae wedi bod yn wythnos well a dechrau da i mis Mawrth gyda Barcud Coch ar y 1af. Drwy gydol yr wythnos mae Giach Fach wedi bod yn y tiroedd gwlyb ( gwelwyd 2 ar y 4ydd a'r 5ed). Gwelir mwy o Sigl di Gwt yn ddiweddar wedi paru mewn gwahanol lefydd ar yr ynys. Mae Cor y Wig yn llenwi'r awyr gyda canu bendigedig ben bore. Mae'r Dryw Penfflamgoch yn dal yn Cristin. Dyma'r manylion:-
Dydd Mawrth, Mawrh 2il
Diwrnod bendigedig arall gydag awel dyner yn dod ac aderyn prin arall ger Henllwyn sef ceiliog a iar Hwyaden Frongoch yn gynnar yn y bore am ychydig cyn cychwyn am y dwyrain.Yn ogystal roedd Tingoch Du yn Henllwyn gyda 2 Gwtiad Aur yn hedfan yn uchel dros y Tir Cul. Roedd y Trochydd Gyddfgoch yn dal yn y lle arferol.
Dydd Mercher Mawrth 3ydd.
Diwrnod tawel gydag un trochydd Gyddfgoch o gwmpas.Drwy gydol y gaeaf mae Bran Goesgoch wedi bod yn dod at y bwrdd adar. Tuag unwaith yr awr mae Bran Goesgoch sydd wedi ei modrwyo yn dod i fwydo ar y bwrdd adar, mae'n hedfan o amgylch i edrych a oes rhywun o gwmpas ac yna deifio i lawr ar y bwrdd!
Efallai nad pawb sydd yn medru rhoi Bran Coesgoch ar y rhestr o adar sydd yn dod i fwydo ar eu bwrdd adar.
Dydd Iau Mawrth 4ydd
Gwelwyd Pila Gwyrdd cyntaf y flwyddyn gyda 4 yn y blanhigfa.Yn y pnawn daliwyd a modrwywyd Giach Fach a oedd wedi cael ei ddal gyda rhwyd yn y tiroedd gwlyb oherwydd ei bod mor dawel.Roedd y Trochydd Gyddfgoch yn dal oddi ar yr ochr Orllewinol.
Dydd Gwener Mawrth 5ed
Diwrnod tawel gyda Trochydd Gyddfgoch yr uchafbwynt a 2 Hugan allan ar y mor.
Dydd Sadwrn Mawrth 6ed
Roedd y Trochydd Gyddfgoch yn dal i fwydo gyda'r Mulfran Werdd ger Carreg yr Honwy tra roedd ceiliog Tingoch Du yn Traeth Ffynnon.
Dydd Sul 7ed.
Diwrnod eithaf tawel gyda 2 Drochydd Gyddfgoch oddi ar ochr Orllewinol a Corhwyaden yng ngwiail Plas.
08/03/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment