14/11/2010


Dydd Sadwrn Tachwedd 6ed.

Tywydd gwell heddiw. Trochydd Mawr y Gogledd, Hwyaden Frongoch, 3 Hwyaden Fwythblu, 2 Gwylan Fach, Bras yr Eira, Dryw Penfflamgoch, 12 Dryw Eurben, 850 Drudwy, Bras y Cyrs, 90 Asgell Fraith, 7 Pinc y Mynydd, 15 Llinos Werdd, 6 Pila Gwyrdd.







Dydd Gwener Tachwedd 5ed.

Diwrnod gwell heddiw. Trochydd Gyddfddu, Elyrch y Gogledd, trochydd Mawr y Gogledd, 2 Aderyn Drycin y Graig, Aderyn Drycin Manaw, 3 Hwyaden Fwythblu, Hwyaden Ddu Gyffredin, Sgiwen y Gogledd, gwylan Mor y Canoldir, Gwylan Fach, 15 Ehedydd, Bras y Gogledd, 1080 Drudwy yn troelli o gwmpas yr ynys, 77 Asgell Fraith, 6 Pinc y Mynydd, 16 Llinos Werdd, Pila Gwyrdd.



Dydd Iau Tachwedd 4ydd.

2 Wylan Fach yn Solfach ac yn y bore gwelwyd Tylluan Wen.




Dydd Mercher Tachwedd 3ydd.

Mwy o dywydd annifyr heddiw ac yn wlyb, dim llawer i'w weld.Pibydd y Mawn, 11 Pila Gwyrdd, 3 Siff Saff, 5 Nico.




Dydd Mawrth Tachwedd 2il.

Dim llawer i'w weld yn enwedig am ei bod yn ddiwrnod annifyr heddiw. 2 Cogylfinir yn y rhan gogleddol, Gwylan fach, Mor Hwyaden Gyffredin, mae'r Telor Penddu yn dal yma o hyd.

No comments: