07/11/2010


Dydd Gwener Hydref 29ain.

Roedd yna wyntoedd cryf iawn drwy'r dydd yn ei gwneud yn annodd i'r adar symud i'r De. Gwelwyd Hwyaden Cynffon Hir yn aros am ychydig yn Solfach cyn ail gychwyn ganol bore am y De. 2 Drochydd Mawr y Gogledd, 2 Wylan Fach, 300 Gwylan Goesddu, 43 Gwylan Benddu, 4 Gwylan Gyffredin. Yn y rhan Gogleddol yr ynys gwelwyd 110 Asgell Fraith, 2 Pinc y Mynydd, 4 Llinos Werdd, 3 Pila Gwyrdd yn y planhigfa tra roedd yna Giach Bach yn y llefydd gwlyb ger Ty Pellaf yn y pnawn.

No comments: