06/11/2010


Dydd Gwener Hydref 15ed.

Diwrnod tawelach heddiw. Gwelwyd Telor Aelfelen efo'r Parakeet Gyddfgoch yn Ty Pellaf ar y goeden afal. 32 Dryw Eurben, 16 Siff Saff, 1 Telor yr Helyg, 6 Telor Penddu, Titw Gynffon Hir, Titw Tomos Las, Titw Mawr yn dal i fwydo ar y daliwr cnau.Bras yr Eira, 2 Chwiwell. Daliwyd mwy o wyfynod, daliwyd y Gwyfyn Oren Coch cyntaf, yna daliwyd 11 arall. Cleddwyfyn Coch, Adain Welw 1af i'r ynys gyda Brychan Coch, 2 Brychan Gwyrdd yr Hydref, 3 Gwelltwyfyn Mawr.




Dydd Iau Hydref 14eg.

Diwrnod tawel arall. 1768 Asgell Fraith, 4 Pinc y Mynydd, 21 Llinos Werdd, 47 Pila Gwyrdd, 70 Nico,17 Llinos Bengoch, 1710 Drudwy, 165 Coch dan Adain, 32 Bronfraith, 24 Mwylachen, 13 Cocan Eira, Giach 1af y tymor ar ochr y mynydd, gwelwyd Hwyaden Bengoch gwryw yn mynd ar haid o hwyaid gwyllt yn Solfach, Chwiwell, Corhwyaden, 2 Bras yr Eira, Tylluan Wen, 14 Gwylan Mor y Canoldir, Siglen Lwyd, Siglen Wen, Crec yr Eithin, 5 Telor Penddu, 5 Siff Saff, Telor yr Helyg, 25 Dryw Eurben, 6 Titw Tomos Las, 2 Ditw Mawr, Titw Cynffon Hir, 2 Bras y Cyrs.

No comments: