Dydd Mawrth Tachwedd 16eg
Diwrnod tawel i ddechrau ond gwynt cryf yn codi o'r De Orllewin yn y pnaw. 13 Gwylan Benddu, 6 Gwylan Gyffredin, 34 Gwylan Goesddu,3 Cornchwiglen, 2 Hwyaden yr Eithin, 27 Asgell Fraith, Pinc y Mynydd,Llinos Werdd, 3 Nico, 3 Pila gwyrdd, 4 Llinos, Llinos Bengoch, 2 Tingoch Du ar y fferm, Cyffylog yn Nant, Rhegen y Dwr yn ngwiail Cristin.
Dydd Llun Tachwedd 15ed
Diwrnod tawel gyda llai o adar. Dryw Penfflamgoch yn Nant, Bras y Gogledd dros Ty Pellaf, Cornchwiglen dros y Culdir, 4 Ehedydd, 6 Corhedydd y Waen, 57 Asgell Fraith, 7 Pinc y Mynydd, 8 Llinos Werdd, Pila Gwyrdd, 4 Llinos, 3 Nico, Bras y Cyrs, 4 bronfraith, 4 Coch dan Adain, Socan Eira, 7 Mwyalchen.
20/11/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment