Dydd Gwener Hydref 22ain.
Roedd yna wynt De Orllewin heddiw a bu'n brysur iawn ganol bore.Gwelwyd 32 Gwylan Fach, 8 Gwylan Mor y Canoldir, 300 gwylan Benddu, Gwylan Goesddu. Roedd Bras yr Eira yn dal yma ar y grug, Siff Saff yn cysgodi yn yr ardd.Gwelwyd 2 Aderyn Drycin Manaw yn y pnawn.
Dydd Iau Hydref 21ain.
Diwrnod tawel heddiw ond gwelwyd gwylan Bonaparte yn mynd am y De ar ochr Orllewinol yr ynys, 13 Gwylan Fach, 13 Gwylan Mor y Canoldir, Sgiwen Frech, Trochydd Gyddfgoch, Morwennol, 2 Bras yr Eira, Tylluan Wen, 8 Telor Penddu, 3 Creyr Glas, Cyffylog, Dortur Dorchog, 35 Ehedydd, Socan Eira, 2 Siff Saff, 12 Dryw Eurben, 9 Titw Tomos Las, 8 Titw Mawr, Pinc y Mynydd, Bras y Cyrs.
Dydd Mercher Hydref 20ed.
Diwrnod oer gyda gwynt y Gogledd.8 Hwyaden Benddu, Gwydd Dalcen Wen, Hwyaden frongoch yn nofio yn yr Henllwyn, Chwiwell, Mor Hwyaden Gyffredin yn hedfan heibio, Llinos y Mynydd a Llinosiaid ar y culdir, Aderyn To yng ngardd Cristin, Bras y Gogledd, 2 Bras yr Eira, Bod Tinwen, 2 Cudyll bach, 3 Cudyll Glas, 3 Cudyll Coch, Bwncath, Tylluan Wen. Sgiwen Frech,Gwylan Fach, Cwtiad Aur, Cornchwiglen, 38 Ehedydd, 2 Wennol, Siglen Lwyd, Tresglen, 7 Siff Saff, 8 Dryw Eurben, 8 Titw Tomos Las, 4 Titw Mawr, 322 Drudwy, 76 Asgell Fraith, 28 Pinc y Mynydd, 42 Llinos Werdd, 22 Pila Gwyrdd, 30 Nico, 29 Llinos Bengoch, Bras y Cyrs.
No comments:
Post a Comment