11/01/2010

Beth mae Ben wedi ei weld yr wythnos yma.

Dydd Llun Ionawr 11eg
Mae wedi bod yn wythnos dda gyda llawer o adar o gwmpas yn chwilio am fwyd sydd ddim wedi rhewi yn solet.Mae'r gwynt yn dal i chwythu o'r Gogledd Orllewin a'r gwynt yn dal yn oer, dim ond ei fod uwchben pwynt rhewi ( ond dim eira).Yr wythnos yma yr uchabwynt oedd gweld 211 o Gornchwiglod, Cwtiad Aur a mwy o Giach a Thresglen.Mae'r Dryw Penfflamgoch yng Nghristin a'r Tingoch Du yn yr Honllwyn yn dal yma ers 3 wythnos! Dyma'r manylion: -
Dydd Llun Ionawr 4ydd.
Gwelais amrywiaeth o rydyddion o gwmpas gyda 2 Pibydd yr Aber, a Pibydd y Mawn yn Solfach, ac 8 Cwtiad Aur yn y caeau. Roedd 3 Gwylan Mor y Canoldir ymysg 300 o Wylanod Penddu.
Dydd Mawrth Ionawr 5ed.
Roedd llanw uchel a gwyntoedd cryfion wedi dod a'r rhan fwyaf o'r gwylanod i'r lan yn Solfach. Roeddynt yn bwydo yn ymyl y lan, yn cynnwys 400 o Wylanod Penddu, 7 Gwylan Mor y Canoldir, 39 Gwylan Gyffredin a 1 Gwylan Fach ddaeth i fwydo o flaen y guddfan.
Dydd Mercher Ionawr 6ed.
Roedd yn ddiwrnod heulog a thawelach gyda'r gwylanod yn dal i fwydo yn Solfach. Roedd yr Wylan fach yn dal yno a gwelwyd un arall yn hwyrach ymlaen.Yn ogystal roedd yna 5 Gwylan Mor y Canoldir, Pibydd yr Aber a Phibydd y Mawn yn bwydo ar y traeth. Yn y tiroedd gwylyb roedd yna Giach fach ac roedd y 2 Tresgeln yn dal o gwmpas.
Dydd Iau Ionawr 7ed.
Yn yr Henllwyn am ychydig o amser gwelwyd Chwiwell gyda 2 Pibydd y Mawn a 2 Gwylan Mor y Canoldir yn Solfach. Yn y pnawn gwelwyd 2 Cyffylog.
Dydd Gwener Ionawr 8ed.
Daeth gwyntoedd ysgafn a thymheredd isel a 156 o Gwtiad Aur a 211 o Gornchwiglod i'r ynys tra oedd 2 Cwtiad Torchog yn bresennol gyda 2 Pibydd y Mawn.Adar eraill oedd 7 Cyffylog, Corhwyaden ,Giach fach a 7 Tresglen.
Dydd Sadwrn Ionawr 9ed.
Eto roedd llawer o rydyddion o gwmpas yn cynnwys 148 Cwtiad Aur, 2 Cwtiad torchog, 2 Pibydd y Mawn, a Phibydd yr Aber. Roedd yna haid fechan o adar yn bwydo allan ar y mor gyda 3 Gwylan Mor y canoldir yn eu plith, ymunodd 4 Wigeon gyda'r grwp bychan o'r hwyaid gwyllt. Hefyd gwelwyd 15 Cyffylog a 11 Tresgeln.
Dydd Sul Ionawr 10ed.
Diwrnod tawelach gyda 2 Cwtiad Torchog, 4 Pibydd y Mawn a Gwylan Mor y canoldir yn Solfach, 17 Cyffylog ar y mynydd a Corhwyaden yn y gwiail.

No comments: