Dydd Llun Ionawr 18ed.
Mae hi wedi bod yn wlypach, gwyntog a wythnos brafiach gyda thymheredd yn uwch na 6 gradd.felly mae llai o adar wedi bod o gwmpas, mae'r rhan fwyaf o'r Tresglen, Cornchwiglod a Chwtiad Aur wedi symud ymlaen dim ond ychydig sydd ar ol. Mae wedi bod yn braf clywed y Llwyd o'r Gwrych, Robin a Thitw Mawr yn canu, arwydd fod y Gwanwyn ar y ffordd.Er fod Adar Drycin y Graig, Gwylanod a'r Gwylog wedi bod o gwmpas er dipyn, rwan rwyf yn eu gweld ar y silffoedd ar yr ochr Ddwyreiniol. Mae'r Tingoch Du a'r Dryw Penfflamgoch yn dal yn eu llefydd arferol.
Dydd Llun 11eg
Roedd 5 Pibydd y Mawn a 2 Cwtiad Torchog yn Solfach gyda Gwylan Mor y Canoldir gerllaw, ac yn y caeau 68 o Gwtiad Aur a 2 Tresglen yn bwydo ar dir meddal. Yng nghanol y rhedyn ar y mynydd roedd 24 Cyffylog.
Dydd Mawrth 12ed
Roedd y rhydyddion arferol o gwmpas gyda 2 cwtiad Torchog a 5 Pibydd y Mawn yn Solfach.Ar y tiroedd gwlyb roedd 2 Giach Bach gyda Corhwyaden yng ngwiail Plas.Roedd 14 Cyffylog o gwmpas.
Dydd Mercher 13eg
Allan ar y mor roedd haid bychan yn bwydo ac yn eu plith roedd 1 Gwylan fach a 3 Gwylan Mor y Canoldir. 2 Cwtiad Torchog a 4 Pibydd y Mawn oedd ar y traeth gyda Giach Fach ac 13 Cyffylog yn y tiroedd gwlyb.
Dydd Iau 14eg
Roedd 1 Gwylan Mor y Canoldir yn Solfach gyda 5 Pibydd y Mawn a Chwtiad Torchog. Ar y culdir roedd yna 27 Cwtiad Aur yn hedfan oddi amgylch. Gwelwyd 7 Cyffylog a Giach fach mewn ardaloedd eraill.
Dydd Gwener 15ed
Diwrnod tawel gydag ychydig o adar o gwmpas ond roedd Corhwyaden yng ngwiail Cristin gyda 3 Cyffylog gerllaw. Ar Solfach roedd 5 Pibydd y Mawn a Chwtiad Torchog yn bwydo.
Dydd Sadwrn 16eg
Diwrnod tawel eto, er fod llanw uchel gyda gwyntoedd cryfion a'r mor yn wyllt daeth 650 Gwylan Benwaig i Solfach gydag 1 Tresglen yng nghaeau Gogledd Orllewin, Corhwyaden a Chwtiad Torchog mewn llefydd eraill.
Dydd Sul 17eg
Gwylan Mor y Canoldir yn Solfach oedd yr uchafbwynt.
18/01/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment