05/01/2010

Dydd Llun Ionawr 4ydd 2010. Mae wedi bod yn wythnos well o ran gweld adar yr wythnos yma - dechrau da i'r flwyddyn newydd. Rydym wedi methu'r eira yn anffodus a'r tymheredd dim ond uwchben pwynt rhewi. Mae'r Dryw Penfflamgoch yn dal o gwmpas y coed pin yng Nghristin a'r Tingoch Du yn yr Henllwyn.
Dydd Sul 27ain - dim
Dyd Llun 28ain - Mae'r Cwtiad Llwyd yn dal yn Solfach ac ymhellach allan gwelwyd Gwylan Mor y Canoldir a Mor Hwyaden Ddu.
Dydd Mawrth 29ain -Roedd y Cwtiad Du a Phibydd y Mawn yn Solfach, a 4 Gwylan Mor y Canoldir allan ar y mor.
Dydd Mercher 30ain - Diwrnod tawel gyda 5 Gwylan Mor y Canoldir yn uchafbwynt.
Dydd Iau 31ain - Gwelwyd Pibydd y Mawn yn Solfach hefyd Trochydd Gyddfgoch a 3 Gwylan Mor y Canoldir.Yn y pnawn gwelwyd trisglen yn y tir ar.
Dydd Gwener - Ionawr 1af Daeth y flwyddyn newydd ac adar newydd fel Pibyd y Mawn, Pibydd yr Aber a 2 Gwylan Mor y canoldir.Glaniodd Hwyaden Frongoch yn Solfach hefyd.Adar eraill oedd Giach Fach yn y tir gwlyb ac un Trisglen yn y caeau.
Dydd Sadwrn - Ionawr 2il Gwelwyd Pibydd y Mawn yn Solfach a Mor hwyaden Ddu a Gwylan Mor y Canoldir allan ar y mor a Giach Fach yn rhan deheuol yr ynys.
Dydd Sul - Ionawr 3ydd Roedd haid o wylanod yn bwydo yn Solfach y rhan fwyaf yn rhai Penddu ond yn eu plith roedd 3 Gwylan Mor y Canoldir a Gwylan Fechan.Roedd y Pibydd yr Abera Phibydd y Mawn yn dal o gwmpas, cyrhaeddodd 7 Cwtiad Aur.

No comments: