Dydd Llun Ionawr 25ain.
Mae wedi bod yn wythnos dawel gydag ychydig o adar o gwmpas. Serch hynny mae niferoedd yr Adar Drycin Manaw a Gwylogod yn dal i gynnyddu ac mae rhai adar fel y Mulfran Werdd wedi dechrau paru.Mae'r Tingoch Du a'r Penfflamgoch yn dal o gwmpas.
Dydd Llun Ionawr 18ed.
Diwrnod gweddol dawel gyda 2 Gwtiad Aur o gwmpas a 2 Gyffylog yn y tiroedd gwlyb.
Dydd Mawrth 19eg
28 Cornchwiglen yn dal ar ol gyda 3 Chwtiad Aur.
Dydd Mercher 20ed.
Diwrnod gwell i weld adar heddiw, gyda Trochydd Gyddfgoch yn hedfan heibio Carreg yr Honwy ra fod 3 Gwylan Fach yn bwydo gerllaw, Un cwtiad Torchog yn Solfach a 2 Gyffylog yn y tiroedd gwlyb.
Dydd Iau 21ain.
Diwrnod tawel arall gyda'r 2 Gyffylog yn dal o gwmpas.
Dydd Gwener 22ain.
Tresgeln oedd yr uchafbwynt yn bwydo yn nyffryn Nant.
Dydd Sadwrn 23ain.
Roedd y Tresglen yn dal yn Nant a Sigl Di Gwt yn hedfan heibio.
Dydd Sul 24ain.
Diwrnod tawel iawn gydag 1 Giach bach yn y tiroedd gwlyb.
26/01/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment