Dydd Gwener Mai 21ain
Er fod yna niwl tew yn dal o gwmpas yn y bore fe aeth yn boeth iawn yn ystod y dydd. Ar ol i'r niwl godi roedd yna ychydig o adar mudol o gwmpas yn cynnwys Telor yr Ardd, 34 Telor yr Hesg, 6 Gyddfwen, Telor Penddu, 15 Siff Saff, Telor yr Helyg a 6 Gwybedog Brith, 21 Tinwen. Roedd y tywydd yn dawel a'r awyr yn glir heddiw a gwelwyd 250 o Wenoliaid, 55 Gwennol y Bondo, 20 Gwennol y Glennydd, 2 Pibydd y Tywod, 6 Pibydd y Mawn, 2 Morwennol Bigddu, Gwylan Penddu, 14 Gwennol Ddu, 2 Pila Gwyrdd, 4 Pengoch.
Roedd y tywydd yn dynerach i'r gloynod byw ac fe welwyd 37 Gla Cyffredin, 6 Copr bach a 70 Gwythien Gwyrdd Gwyn yn y caeau rhwng Ty Pellaf a Christin.
16/06/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment