Dydd Sul Mehefin 6ed
Pasiodd 9 Mor Hwyaden Ddu ar y mor, Cornchwiglen ar ochr Ddeheuol yr ynys a Chudyll Coch oedd yr unig adar gwerth son amdanynt heddiw.
Dydd Llun Mehefin 7ed
Gwelwyd 3 Llinos Bengoch, Pila Gwyrdd, Gwybedog Brith, Telor yr Helyg, Gwennol y Bondo, Pibydd y Mawn a Chudyll Coch.
Dydd Mawrth Mehefin 8ed
Cafwyd glaw yn y nos a dim ond ychydig o adar ddaeth i mewn sef 3 Pibydd y Tywod, 2 Pibydd y Mawn, Creyr Glas, 10 Gwennol y Bondo, Cudyll Coch a Telor yr Helyg.
Dydd Mercher Mehefin 9ed
Roedd Telor y Cyrs yn canu'n y bore yng Nghristin ac yn hwyrach yn y dydd fe'i daliwyd a'i fodrwyo yng Ngwiail Plas. Gwelwyd llawer o Wenoliaid Du yn y pnawn gyda haid o 61 yn hedfan yn uchel yn pasio drwodd, 2 Telor yr Helyg, 4 Siff Saff, Gwybedog Brith, 3 Llinos Bengoch, a 2 Gwtiad Aur ar yr ochr Ddeheuol.
Dydd Iau Mehefin 10ed
Aderyn gorau y diwrnod oedd Sgiwen y Gogledd yr unig un eleni yn ymosod ar y Gwylanod Coesddu oddi ar Ben Cristin. Fel arall diwrnod tawel oedd hi gyda dim ond Telor y Cyrs ar ol ers ddoe.
17/06/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment