16/06/2010


Dydd Sadwrn Mai 29ain

Telor y Cyrs oedd yr aderyn gorau heddiw yn yr eithin ar ochr ddeheuol yr ynys.Turtur, 34 Gwennol y Bondo, 5 Pibydd y Mawn, 2 Cwtiad Torchog wedi deor 4 cyw. 4 Coegylfinir, 2 Cwtiad y Traeth, Telor Penddu a 2 Gwybedog Brith.

Yn ogystal mae'n amser da i weld y gwyfynod gan eu bod yn cael eu dal yn y trapiau bob nos ac yna eu cofnodi yn y bore.



Dydd Sul Mai 30ain

Diwrnod tawel arall a dim ond ychydig o adar o gwmpas. Gwelwyd Pibydd y Tywod, Pibydd y Mawn a cwtiad y Traeth ar Solfach. Hefyd Telor y Cyrs, Turtur, Siglen Felyn, 2 Gyddfwen, Telor penddu, 6 Siff Saff, telor yr helyg, 3 gwybedog brith a 3 Dryw Eurben.


Dydd Llun Mai 31ain

Diwrnod tawel ond buan y newidiodd pan welwyd Llinos Goch gwryw cyntaf yr haf yn canu yn Nant, cyn symud ymlaen i ardd Cristin yn y pnawn. Sigl di gwt, 8 Gwybedog Brith, 3 Llinos Bengoch Leiaf, Conchwiglen, 2 Pibydd y Mawn, 4 Gwennol y Bondo. Deorodd ail nythiad o Gwtiad Torchog ar y culdir a chawsant eu modrwyo yn y bore.


Mae'r adar sydd yn nythu yn cymeryd drosoddd lle mae'r adar mudol wedi prinhau, Modrwywyd 1 cyw Bran Coesgoch yn y pnawn, ynghyd a 12 Mulfran Werdd ac 1 cyw Hebog Tramor.

No comments: