Dydd Gwener Mehefin 11eg
Ganol y bore gwelwyd Aderyn y To Gyddfwen yn Nant. Ar ol aros ar ben y ffens o flaen ymwelwyr y Wylfa aeth i mewn i'r tyfiant ac fe fu'n cuddio am amser.
Tra'n aros i weld yr aderyn, clywyd can aderyn arall yn canu'n yr helyg gerllaw.Deallwyd yn syth mai Telor Gwyrdd oedd yr aderyn ond fe'i gwelwyd yn glir yn mynd o ardd i ardd.
Agorwyd y rhwydi ac fe ddaliwyd y 2 aderyn. Nid oes neb yn gwybod yr amgylchiadau pam ddaeth y 2 aderyn yma o wahanol gyfandiroedd yma, Aderyn y To Gyddfwen o Ogledd America a'r telor Gwyrdd o Asia a'r ddau wedi ffendio eu ffordd yr un pryd i Ynys Enlli ac yna'n cael eu gweld ochr yn ochr.
Arwahan i'r 2 yma doedd dim llawer o adar o gwmpas ond 4 Llinos Bengoch, a 3 Pila Gwyrdd yn hedfan o amgylch yr ynys, roedd yna 2 Turtur Dorchog a Pibydd y Mawn ar y traeth.
No comments:
Post a Comment