24/06/2010

Dydd Mawrth Mehefin 22ain.
Hedfanodd 4 Creyr Glas ar yr ochr Gorllewinol yn y bore ac roedd haid y Gylfinir wedi cynnyddu i 9, ac roedd Coegylfinir a'r Parakeet yn dal ar yr ynys ynghyd a 6 Llinos Bengoch.
Mae'r gwyfynod 6 smotyn wedi dod allan ac fe welwyd 100 yn hedfan o amgylch caeau ger Ty Pellaf yn ystod y pnawniau braf.

Dydd Llun Mehefin 21ain.
Mae pob amser yn braf cael gweld Tingoch Du a gwelwyd un ger yr Abaty, Cornchwiglen, 2 Wennol Ddu ac oedd y Parakeet yn dal i ddod i fwydo ar y bwydwr cnau.

Dydd Sul Mehefin 20ed.
Gwelwyd y Cwtiad Aur eto gyda Cwtiad y traeth, 4 Gylfinir, Pibydd Coesgoch cyntaf ers peth amser, Cog ifanc yn ein gwenud i ni ama os oedd wedi cael ei fagu ar yr ynys ai peidio, Gwylan Penddu, Llinos Begoch, Dryw Eurben, Turtur Dorchog a'r Parakeet!

Dydd Sadwrn Mehefin 19eg.
Ben bore gwelwyd Cwtiad Aur yn rhan deheuol yr ynys, yna Cwtiad y Traeth, Coegylfinir, 4 Gylfinir, Creyr Glas, Turtur Dorchog, Gwylan Penddu, Parakeet a Gwennol Ddu, Telor Penddu, Gwenol y Bondo, 2 Dryw Eurben a Llinos Bengoch.

Dydd Gwener Mehefin 18ed.
23 Morhwyaden Ddu, 2 Mor Wennol Bigddu, 4 Gwenol Ddu oedd uchafbwynt gwylio'r mor a Turtur Dorchog, Telor Pendu a'r Parakeet ar y tir.

Dydd Iau Mehefin 17eg.
Doedd dim llawer o newid yn yr adar tir felly trowyd y gorwelion tua'r mor. Gwelwyd 4 Morwennol Bigddu, 7 Mor hwyaden Ddu, 4 Gylfinir, Cornchwiglen, Telor Penddu, 2 Turtur Dorchog a'r Parakeet o'r diwrnod cynt.

No comments: