Sefydlwyd Gwylfa Maes ac Adar Ynys Enlli yn 1953.
Daeth criw o wylwyr adar o ganolbarth Lloegr i'r ynys am wyliau a gweld bod y lle yn ddelfrydol ar gyfer astuduio adar a bywyd gwyllt yn gyffredinol.
Cafodd y Wylfa ei sefydlu gan aelodau o sawl clwb adar sef y 'Birmingham and West Midland Bird Club', 'West Wales Field Society', preswylwyr yr ynys a phobl oedd a diddordeb mewn sefydlu gwylfa adar o sir Gaernarfon. Yn dilyn hyn, cafodd 'Ymddiriedolaeth Ynys Enlli' ei ffurfio ar ol i'r ynys ddod ar werth yng nghanol y 70au. Aelodau o'r Wylfa a rhai o drigolion Gwynedd wnaeth brynu yr ynys a ffurfio yr Ymddiriedolaeth. Eu prif bwrpas yw i gadw'r treftadaeth a'r hanes naturiol sydd i'r ynys yn fyw. Gwylfa Maes ac Adar Ynys Enlli yw'r unig Wylfa archredig yng Nghymru ac yn un o ugain drwy Brydain sy'n rhwydweithio a'u gilydd ac yn tyfu o hyd. Mae'r Wylfa yn elusen gofrestredig.
No comments:
Post a Comment