Dydd Iau Medi 16eg.
Diwrnod arall yn y guddfan, ddim cystal am adar heddiw ond gwelwyd 4 gwylan Sabine yn bwydo ymysg ygwylanod coesddu, 6 Pedryn Llach,5 Sgiwen Frech, 7 Sgiwen y Gogledd, 14 Sgiwen Fawr, 9 Aderyn Drycin y Baleares, Morwenoliaid yn symud am y De. 134 Morwennol Gyffredin, 36 Morwennol Bigddu, 1 Morwennol Ddu, Gwylan Fach.
Ar y tir roedd yna Mwyalchen Mynydd, Rhegen y Dwr, Dryw Penfflamgoch yng Ngardd Cristin, Llinos Goch, Pengam, Tylluan Wen, 20 Dryw Eurben, 21 Siff Saff, Telor yr Hesg, 4 Siglen Lwyd.
No comments:
Post a Comment