Dydd Sul Medi 3ydd.
Tylluan Wen oedd yr uchafbwynt heddiw er gwelwyd Mwyalchen Mynydd ger Ty Capel,5 Siff Saff, 6 Dryw Eurben, Telor Per, Bras y Cyrs, 19 Wennol, Gwennol y Bondo, Sofliar, Pibydd yr Aber ar yr ochr Ddeheuol, Sgiwen Fawr, Clywyd Cwtiad Llwyd yn galw uwchben Cristin ar ol iddi dywyll.
Dydd Sadwrn Medi 2il.
Ar ol gwylio o guddfan y De ben bore gwelwyd 4 Sgiwen y Gogledd, Sgiwen Fawr, Gwylan Mor y Gogledd, Gwylan Fach. Roedd Telor Per yn dal yng ngardd Cristin. 2 Ditw Tomos Las, 2 Siglen Lwyd, Bras y Cyrs, Drudwy, 2 Gudyll Bach yn hela Llinosiaid a Corhedydd.
13/10/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment