31/10/2010

Dydd Sul Hydref 10ed.
Roedd yna ychydig o adar yn dod trwodd ganol bore ac yng ngardd Cristin gwelwyd Telor Aelfelen, 3 Dryw Penfflamgoch, 8 Mwyalchen Mynydd, Pinc y Mynydd,Bras yy Eira cyntaf ar ben y mynydd, Tresglen yn hedfan dros Nant, 8 Hwyaden fwythblu yn pasio Pen Cristin, 43 Ehedydd, 9 Wennol, 2 Corhedydd y Coed, 16 Bronfraith, 11 Coch Dan Adain, Telor y Cyrs, 12 Telor Penddu, 19 Siff Saff, 16 Dryw Eurben, 21 Titw Tomos Las, 6 Titw Glo, 11 Titw Mawr, 2 Gwybedog Brith, 2 Gwybedog Mannog, 140 Drudwy, 140 Asgell Fraith, 9 Pila Gwyrdd, 29 Nico, 2 Bras y Gogledd, 8 Bras y Cyrs, Cnocell Fraith fwyaf, 2 Rhegen y dwr, Gwylan Mor y Canoldir.
Gwelwyd Pili Pala Mantell Garpiog ger Cristin a Ty Pellaf, hwn oedd y 5ed i'w gofnodi ar yr ynys.



Dydd Sadwrn Hydref 9ed.
Roedd yna 7 Hwyaden Fwythblu ar ochr orllewinol yr ynys yn ei wneud yn ddigwyddiad anghyffredin. Bod Tinwen a Throchydd Mawr yn hedfan heibio, Cnocell Fraith Fwyaf yn y planhigfa, Telor y Cyrs, Clec y Cerrig, Gwybedog Mannog, Gwybedog Brith, Mwyalchen y Mynydd, Bras y Cyes, 6 Bras y Gogledd, 12 Wennol, 2 Siglen Lwyd, 6 Bronfraith, 6 Telor Penddu, 10 Siff Saff, Telor yr Helyg, 9 Dryw Eurben, 9 Titw Tomos Las, 22 Titw Mawr, 68 Drudwy, 70 Asgell Fraith, Llinos Werdd, 15 Pila Gwyrdd, 29 Nico, Pibydd y Dorlan, Cwtiad Aur,, Cornchwiglen, 19 Gwylan Mor y Gogledd, 19 Mor Hwyaden Ddu, Sgiwen Fawr, Rhegen y Dwr, 2 Greyr Glas.





Dydd Gwener Hydref 8ed.
Gwelwyd 37 Bras y Gogledd sef adar gorau y diwrnod. 74 Titw Mawr, 66 Titw Tomos Las, 4 Wennol, Gwenol y Bondo, 4 Siglen Lwyd, 11 Tinwen, 3 Titw Penddu, 6 Siff Saff, 11 Nico, 1 Gwybedog Brith, 1 Gwybedog Mannog, 46 Drudwy, 50 Asgell Fraith, 6 Llinos Werdd, 9 Pila Gwyrdd, 9 Bras y Cyrs, 8 Gwylan Mor y Canoldir, 6 Gwylan Gyffredin, Par o Chwiwell, 23 Mor HwyadenDdu, Cwtiad Aur, Pibydd yr Aber, Pibydd y Mawn, 3 Giach Fach.

No comments: