Dydd Sadwrn Medi 18ed.
Gostegodd y gwynt yn ystod y nos a daeth ychydig o adar mudol i mewn erbyn y bore. 7 Dyw Eurben ar Ben Cristin, ychydig o delor yr helyg a Siff Saff, 5 Telor Penddu yng ngardd Cristin, gwybedog brith yng Ngardd Ty Pellaf. Mae'r tymheredd wedi disgyn a theimlad Hydrefol i'r diwrnod. Yn uchel i fyny gwelwyd haid o Siff Saff yn mynd i'r De, 68 Cor Hedydd y waen, 38 Asgell fraith, 7 Dryw Eurben, 5 Llinos Bengoch, 11 Siglen Lwyd ar ran deheuol yn y bore. Roedd Bras y Cyrs a Llinosiaid yn gwledda ar hadau Blodau'r haul. Gwelwyd Llinos Goch ger Ty Capel a Corhedydd y Coed ar ran deheuol yr ynys.
03/10/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment