22/02/2010







Dydd Llun Chwefror 22ain
Er fod Gwanwyn yn agosau drwy'r amser mae'r tywydd oer yn dal gyda ni ac yn ei gwneud yn fwy gaeafol.Er fod y tywydd yn yn oer nid yw hynny yn rhwystro'r adar i ddal i ganu drwy'r dydd ac mae llawer iawn o Garfilod ar yr ochr Ddwyreiniol yn dal mewn rafftiau yn gynnar yn y bore. Gwelir Cywion Gwyddau yn dechrau dod allan ar y gwiail er fod y Cennin Pedr ger yr Abaty ddim ond yn dechrau trwyno drwy'r pridd.
Drwy gydol yr wythnos mae'r Giach Fach wedi cael ei weld yn y tiroedd gwlyb ac ychydig o Huganod allan ar y mor yn dod yn olygfa cyffredin eto.O'r 17eg ymlaen roedd yna Trochydd Gyddfgoch yn bwydo gyda'r haid o Fulfran Werdd ar yr ochr Orllewinol.Roedd Cyffylog yn yr eithin ym Mhen Cristin ar y 15ed tra ar y 17eg a'r 19eg gwelwyd 2 Gwtiad Torchog yn Solfach. Clywyd 2 Dylluan Fach yn galw i lawr yn y tiroedd gwlyb ar y 19eg. Gwelwyd un o'r rheiny y diwrnod canlynol.Fel ac o'r blaen mae'r Dryw Penfflamgoch yn dal yng Nghristin yn hapus yn bwydo ar y pinwydd.

17/02/2010





Wythnos Chwefror 9ed - 16eg

Dydd Mawrth Chwefror 16eg.
Mae'r wythnos yma wedi bod yn ddistawach gydag ychydig o adar o gwmpas. Erbyn hyn mae mwy o boblogaeth o adar ar yr ochr ddwyreiniol ac mae i fyny i 280 o Wylogod, 120 Llurs, 21 Mulfran Werdd a 46 o Aderyn Drycin y Graig yn hedfan o gwmpas ac ar lethrau y creigiau. Mae'r Dryw Penfflamgoch yn dal o gwmpas y coed Pin yng Nghristin. Bum i ffwrdd o Ddydd Gwener tan Ddydd Sul a chyn hynny doedd ond ychydig o adar o gwmpas.Dydd Iau gwelwyd Pibydd yr Aber yn dilyn Gylfinir a 3 Trochydd Gyddfgoch yn bwydo gyda haid o Mulfran Werdd nepell o Garreg yr Honwy.Ar fy ffordd yn ol o'r tir mawr gwelais geiliog Hwyaden Frongoch yn hedfan tuag at yr Ynys ond ni welwyd o yn unlle wedyn.

09/02/2010






Dydd Mawrth Chwefror 9ed
Mae wedi bod yn ddistawach ar ddechrau'r mis gydag ychydig os rhywrai o adar gwahanol o gwmpas.Mae'r tywydd tynerach a gwlyb wedi bod yn annifyr ar adegau ond pan ddaw'r haul allan mae rhywun yn teimlo fod y Gwanwyn ar y ffordd. Gwelwyd Corhedydd y Graig yn hedfan a chanu o amgylch yr arfordir ac fe glywir mwy a adar yn canu'n y bore.O'r diwedd mae'r Tingoch Du wedi gadael, y tro olaf y gwelais o, oedd ar Ddydd Mawrth 2il, ond mae'r Dryw Penfflamgoch yn dal yma yng nghanol y pincod a'r titw yng Nghristin.

Dydd Llun Chwefror 1af. Gwelwyd Hugan allan ar y mor.
Dydd Mawrth Chwefror 2il. 3 Gwylan Gyffredin a Hugan arall allan ar y mor a Chyffylog yn Nant.
Dydd Mercher Chwefror 3ydd. 2 Giach Fach yn y tiroedd gwlyb.
Dydd Iau Chwefror 4ydd. Dim i'w adrodd.
Dydd Gwener Chwefror 5ed. Un Giach Fach yn y tiroedd gwlyb.
Dydd Sadwrn Chwefror 6ed.Turtur Dorchog yn hedfan ar yr ochr Orllewinol tra roedd 4 Giach Fach yn y tiroedd gwlyb.2 Dylluan Fach yn galw yn y nos.

01/02/2010






Dydd Llun Chwefror 1af.
Distaw iawn oedd diwedd mis Ionawr oherwydd mai dim ond ychydig o adar oedd o gwmpas.Drwy edrych yn ol ar y mis mae niferoedd da iawn o Gornchwiglod, Cwtiad Aur, Cyffylog a Giach wedi bod yma, gydag ambell i aderyn prin e.e. Chwiwell, Hwyaden Frongoch a Gwylan Fach.
Yr wythnos yma oedd y tawelaf o'r mis, ond gwelir mwy o adar mor ar yr ochr Ddwyreiniol ac fe glywir mwy o ganu yn y bore (er fod y tywydd wedi oeri).Rwyf yn cymeryd fod y Tingoch Du a'r Dryw Eurben yn breswylwyr ar yr ynys gan eu bod wedi aros yma am fis a hanner.Llanw uchel iawn wedi bod tua diwedd yr wythnos ( yr 2il uchaf o'r flwyddyn) ac felly wedi gwthio'r gwylanod a'r rhydyddion yn uwch i fyny'r traeth yn Solfach.
Dydd Llun 25ain
Roedd Cornchwiglen yn Henllwyn a Thresglen yn y tiroedd ar.
Dydd Mawrth26ain
Gwelwyd Cwtiad Torchog yn bwydo yn Solfach gyda Chwtiad y Traeth a'r Tresglen yn dal o gwmpas.
Dydd Mercher 27ain
Diwrnod tawel gyda Gwtiad Torchog yr uchafbwynt.
Dydd Iau 28ain - Dim
Dydd Gwener 29ain - Dim
Dydd Sadwrn 30ain
Llanw uchel yn gwthio 32 Gwylan Benddu a 19 Gwylan Gyffredin i Solfach.
Dydd Sul 31ain
Llanw uwch a gwyntoedd cryf yn gwthio 24 Gwylan Benddu ac 16 Gwylan Gyffredin yn agos at y guddfan.