24/06/2010



Dydd Mawrth Mehefin 22ain.
Hedfanodd 4 Creyr Glas ar yr ochr Gorllewinol yn y bore ac roedd haid y Gylfinir wedi cynnyddu i 9, ac roedd Coegylfinir a'r Parakeet yn dal ar yr ynys ynghyd a 6 Llinos Bengoch.
Mae'r gwyfynod 6 smotyn wedi dod allan ac fe welwyd 100 yn hedfan o amgylch caeau ger Ty Pellaf yn ystod y pnawniau braf.

Dydd Llun Mehefin 21ain.
Mae pob amser yn braf cael gweld Tingoch Du a gwelwyd un ger yr Abaty, Cornchwiglen, 2 Wennol Ddu ac oedd y Parakeet yn dal i ddod i fwydo ar y bwydwr cnau.

Dydd Sul Mehefin 20ed.
Gwelwyd y Cwtiad Aur eto gyda Cwtiad y traeth, 4 Gylfinir, Pibydd Coesgoch cyntaf ers peth amser, Cog ifanc yn ein gwenud i ni ama os oedd wedi cael ei fagu ar yr ynys ai peidio, Gwylan Penddu, Llinos Begoch, Dryw Eurben, Turtur Dorchog a'r Parakeet!

Dydd Sadwrn Mehefin 19eg.
Ben bore gwelwyd Cwtiad Aur yn rhan deheuol yr ynys, yna Cwtiad y Traeth, Coegylfinir, 4 Gylfinir, Creyr Glas, Turtur Dorchog, Gwylan Penddu, Parakeet a Gwennol Ddu, Telor Penddu, Gwenol y Bondo, 2 Dryw Eurben a Llinos Bengoch.

Dydd Gwener Mehefin 18ed.
23 Morhwyaden Ddu, 2 Mor Wennol Bigddu, 4 Gwenol Ddu oedd uchafbwynt gwylio'r mor a Turtur Dorchog, Telor Pendu a'r Parakeet ar y tir.

Dydd Iau Mehefin 17eg.
Doedd dim llawer o newid yn yr adar tir felly trowyd y gorwelion tua'r mor. Gwelwyd 4 Morwennol Bigddu, 7 Mor hwyaden Ddu, 4 Gylfinir, Cornchwiglen, Telor Penddu, 2 Turtur Dorchog a'r Parakeet o'r diwrnod cynt.

17/06/2010



Dydd Llun Mehefin 14eg

Uchafbwynt y diwrnod oedd Hebog yr Ehedydd yn hedfan dros yr ynys amser cinio. 2 Greyr Glas. Roedd y Parakeet a'r Gog yn dal o gwmpas gyda Cwtiad y Traeth yn Henllwyn. Gwelwyd Gwennol Ddu, Gwennol y Bondengoch, 3 Nico a Pila Gwyrdd.

Dydd Sul Mehefin 13eg

Rhywogaeth newydd arall i'r ynys oedd Parakeet Dorchog yn hedfan oddi amgylch yn uchel cyn aros yn Nant am weddill y dydd. Nid yw'n cael ei gysidro fel aderyn gwyllt go iawn ond mae'n cael ei gynnwys yng nghategori "C" ac felly'n dal i gael ei "gyfri" fel mae'r Gwydd Ganada a'r Tylluanod Bach sydd yma.
Mae'r Gog yn dal yma a gwelwyd Durtur Dorchog, Pila Gwyrdd, 2 Nico a 2 Llinos Bengoch Leiaf.

Dydd Sadwrn Mehefin 12ed

Ar ol gweld y 2 aderyn prin ddoe roeddynt wedi diflannu erbyn heddiw. Cog oedd yr aderyn gorau heddiw yn cynwys Drudwy, Gwybedog Brith, Gwennol Ddu, Gwennol y Bondo, 2 Pila Gwyrdd, 2 Dryw Eurben a 4 Llinos Bengoch Leiaf o amgylch y planhigfa.


Dydd Gwener Mehefin 11eg

Ganol y bore gwelwyd Aderyn y To Gyddfwen yn Nant. Ar ol aros ar ben y ffens o flaen ymwelwyr y Wylfa aeth i mewn i'r tyfiant ac fe fu'n cuddio am amser.

Tra'n aros i weld yr aderyn, clywyd can aderyn arall yn canu'n yr helyg gerllaw.Deallwyd yn syth mai Telor Gwyrdd oedd yr aderyn ond fe'i gwelwyd yn glir yn mynd o ardd i ardd.

Agorwyd y rhwydi ac fe ddaliwyd y 2 aderyn. Nid oes neb yn gwybod yr amgylchiadau pam ddaeth y 2 aderyn yma o wahanol gyfandiroedd yma, Aderyn y To Gyddfwen o Ogledd America a'r telor Gwyrdd o Asia a'r ddau wedi ffendio eu ffordd yr un pryd i Ynys Enlli ac yna'n cael eu gweld ochr yn ochr.

Arwahan i'r 2 yma doedd dim llawer o adar o gwmpas ond 4 Llinos Bengoch, a 3 Pila Gwyrdd yn hedfan o amgylch yr ynys, roedd yna 2 Turtur Dorchog a Pibydd y Mawn ar y traeth.
Dydd Sul Mehefin 6ed
Pasiodd 9 Mor Hwyaden Ddu ar y mor, Cornchwiglen ar ochr Ddeheuol yr ynys a Chudyll Coch oedd yr unig adar gwerth son amdanynt heddiw.

Dydd Llun Mehefin 7ed
Gwelwyd 3 Llinos Bengoch, Pila Gwyrdd, Gwybedog Brith, Telor yr Helyg, Gwennol y Bondo, Pibydd y Mawn a Chudyll Coch.

Dydd Mawrth Mehefin 8ed
Cafwyd glaw yn y nos a dim ond ychydig o adar ddaeth i mewn sef 3 Pibydd y Tywod, 2 Pibydd y Mawn, Creyr Glas, 10 Gwennol y Bondo, Cudyll Coch a Telor yr Helyg.

Dydd Mercher Mehefin 9ed
Roedd Telor y Cyrs yn canu'n y bore yng Nghristin ac yn hwyrach yn y dydd fe'i daliwyd a'i fodrwyo yng Ngwiail Plas. Gwelwyd llawer o Wenoliaid Du yn y pnawn gyda haid o 61 yn hedfan yn uchel yn pasio drwodd, 2 Telor yr Helyg, 4 Siff Saff, Gwybedog Brith, 3 Llinos Bengoch, a 2 Gwtiad Aur ar yr ochr Ddeheuol.

Dydd Iau Mehefin 10ed
Aderyn gorau y diwrnod oedd Sgiwen y Gogledd yr unig un eleni yn ymosod ar y Gwylanod Coesddu oddi ar Ben Cristin. Fel arall diwrnod tawel oedd hi gyda dim ond Telor y Cyrs ar ol ers ddoe.


Dydd Sadwrn Mehefin 5ed

Uchafbwynt y diwrnod oedd gweld Cwtiad y Traeth, 2 Gudyll, 2 Durtur Dorchog, 4 Siff Saff, 2 Dryw Eurben, 3 Gwennol Ddu, 3 Gwennol y Bondo, modrwywyd nythiad o wyau Ehedydd ar yr ochr Orllewinol bore heddiw.





Dydd Gwener Mehefin 4ydd

Tingoch Du oedd yr aderyn gorau heddiw a welwyd ger yr Abaty. 6 Turtur Dorchog, Telor yr Helyg, 4 Siss Saff, 2 Gwybedog Brith, 4 Nico, 4 Llinos Bengoch Leiaf, Cudyll, 2 Gwennol Ddu, Gwennol y Glennydd, 4 Gwennol y Bondo, 2 Gylfinir a 3 Coegylfinir.

Heddiw oedd y trip cyntaf i Ynysoedd y Gwylanod i fodrwyo adar y mor aú cyfri.Roedd rhai o'r Mulfran a Mulfran Gwyrdd yn rhy fawr i'w modrwyo ond mi roedd y Gwylanod Cefnddu Mwyaf a Gwylanod Penwaig yn addas. Hefyd modrwywyd Pal ac un cyw yn y twll.
Dydd Iau Mehefin 3ydd
Uchafbwynt y diwrnod oedd yn hwyr yn y pnawn sef Turtur yn Nant, Cog ym Mhen Cristin, 4 Llinos Bengoch Leiaf, 2 Dryw Eurben, Telor yr Hesg yng Nghristin, 5 Siff Saff, 4 Gwybedog Brith, 2 Turtur Dorchog, 2 Coegylfinir a Gylfinir.

Dydd Mercher Mehefin 2il.

Diwrnod braf arall ond distaw o ran adar er gwelwyd Dryw Penfflamgoch yn Nant yn y bore, yna Siglen Wen, 16 Pibydd y Mawn, Morwennol Bigddu, 2 Turtur Dorchog, Pila Gwyrdd, Llinos Bengoch Leiaf, 3 Gwybedog Brith, Telor Penddu, 11 Siff Saff a Thelor yr Helyg.




Dydd Mawrth Mehefin 1af

Fel arfer mae'r 1af o Fehefin yn ddiwrnod da i weld adar prin ond nid eleni.Dim ond Siglen Wen ar Solfach, 6 Gwybedog Brith, 7 Siff Saff, Telor yr Helyg, 2 Gyddfwen, 2Gwennol y Glennydd, 4 Gwennol y Bondo a 12Pibydd y Mawn.

16/06/2010



Dydd Sadwrn Mai 29ain

Telor y Cyrs oedd yr aderyn gorau heddiw yn yr eithin ar ochr ddeheuol yr ynys.Turtur, 34 Gwennol y Bondo, 5 Pibydd y Mawn, 2 Cwtiad Torchog wedi deor 4 cyw. 4 Coegylfinir, 2 Cwtiad y Traeth, Telor Penddu a 2 Gwybedog Brith.

Yn ogystal mae'n amser da i weld y gwyfynod gan eu bod yn cael eu dal yn y trapiau bob nos ac yna eu cofnodi yn y bore.



Dydd Sul Mai 30ain

Diwrnod tawel arall a dim ond ychydig o adar o gwmpas. Gwelwyd Pibydd y Tywod, Pibydd y Mawn a cwtiad y Traeth ar Solfach. Hefyd Telor y Cyrs, Turtur, Siglen Felyn, 2 Gyddfwen, Telor penddu, 6 Siff Saff, telor yr helyg, 3 gwybedog brith a 3 Dryw Eurben.


Dydd Llun Mai 31ain

Diwrnod tawel ond buan y newidiodd pan welwyd Llinos Goch gwryw cyntaf yr haf yn canu yn Nant, cyn symud ymlaen i ardd Cristin yn y pnawn. Sigl di gwt, 8 Gwybedog Brith, 3 Llinos Bengoch Leiaf, Conchwiglen, 2 Pibydd y Mawn, 4 Gwennol y Bondo. Deorodd ail nythiad o Gwtiad Torchog ar y culdir a chawsant eu modrwyo yn y bore.


Mae'r adar sydd yn nythu yn cymeryd drosoddd lle mae'r adar mudol wedi prinhau, Modrwywyd 1 cyw Bran Coesgoch yn y pnawn, ynghyd a 12 Mulfran Werdd ac 1 cyw Hebog Tramor.


Dydd Iau Mai 27ain

Ni welwyd llawer iawn heddiw, hedfannodd Cwtiad y Traeth dros y De a 2 Durtur a Durtur Dorchog yn aros o gwmpas y fferm, 2 Pila Gwyrdd yng ngardd Cristin, Telor yr Ardd, Gyddfwen, 9 Siff Saff a 4 Gwybedog Brith.



Dydd Gwener Mai 28ain

Uchafbwynt heddiw oedd Euryn a aeth oddi amgylch yr ynys yn ymweld a phob gardd ac felly yn ei gwneud hi'n annodd i gyfri sawl aderyn mewn gwirionedd oedd yna. Gwelwyd Siglen Felyn wryw yng nghanol y gwartheg a'r tro yma gyda phen glas. 10 Telor yr Hesg, 4 Gyddfwen, 2 Telor Penddu, Telor yr Ardd, 6 Siff Saff 2 Wybedog Brith, Gwennol y Glennydd, 14 Gwennol y Bondo, 2 Turtur Dorchog, Llinos Bengoch a 4 Dryw Eurben.

Dydd Mercher Mai 26ain

Aderyn prin iawn oedd y Rhostog Gynffonddu a welwyd ar y culdir yn gynnar iawn yn ystod y bore a Thingoch Du yng Nghristin. 2 Durtur, 2 Durtur Dorchog, Telor yr Hesg, 12 Gwybedog Brith, 6 Gyddfwen, Telor Penddu, 4 Siff Saff, 6 Telor yr Helyg, 3 Pengoch Lleiaf oedd y lleill a welwyd yn ystod y dydd.


Dydd Mawrth Mai 25ain

Diwrnod oerach heddiw oherwydd y gwynt Gogledd Orllewin er fod yr awyr yn glir a heulog drwy'r dydd.Gwelwyd Tingoch Du yn Nghristin ben bore, Cornchwiglen, Durtur, Durtur Torchog, Telor yr Ardd, Telor Penddu, 5 telor yr Helyg ac 8 Gwybedog Brith.

Dydd Llun Mai 24ain

Arhosodd y Durtur Dorchog o'r diwrnod cynt, dychrynnodd Creyr Glas y Piod Mor pan hedfannodd dros y culdir, bu'n hedfan dros yr ynys drwy'r dydd fel petai ar goll. Gwelwyd 26 o Wenoliaid Du uwchben y fferm yn y pnawn, 8 Gwennol y Glenndd, 45 Wennol, 16 Gwennol y Bondo, 2 Fwncath, Cudyll, 8 Durtur Dorchog, 2 Pibydd y Tywod, 3 Pibydd y Mawn, 7 gwybedog Brith, 6 Telor y Hesg, 3 Gyddfwen, 5 Siff Saff a 9 Pengoch.

Dydd Sul Mai 23ain

Ar ol wythnosau o weld ychydig o adar gwelwyd Telor Brongoch gwryw yn canu yn y llwyni tu ol i Cristin, hwn oedd yr un Dwyreiniol a nodwd ynddiweddarach ar ol iddo gael ei ddal yn y rhwydi. Yna gwelwyd ail aderyn a oedd yn iar yn isel yn y tyfiant. Mae'n amlwg fod y rhywogaeth yma yn arbennig i Ynys Enlli oherwydd mae yna 7 wedi cael eu cofnodi yn ystod y 4 blynedd diwethaf. Yn 1994 er enghraifft roedd 3 ar yr ynys ar yr un pryd!

Dydd Sadwrn Mai 22ain.
Diwrnod poeth arall yn ei gwneud iddi deimlo fod yr haf wedi cyrraedd o'r diwedd nid oedd cwmwl yn yr awyr a dim awel. Gwelwyd Telor y Cyrs cyntaf y flwyddyn yng Ngwiail Cristin. 9 Telor yr Hesg, 2 Gyddfwen, Telor Penddu, 6 Siff Saff, Telor Yr Helyg, 7 Gwybedog Mannog, Bran Lwyd, 4 Durtur Dorchog, 3 Siglen Wen, 5 Pengoch, Dryw Eurben, Bwncath, Cudyll, 5 Gwennol Ddu, 14 Gwennol y Glennydd, 80 Gwennol a 37 Gwennol y Bondo.
Dydd Gwener Mai 21ain
Er fod yna niwl tew yn dal o gwmpas yn y bore fe aeth yn boeth iawn yn ystod y dydd. Ar ol i'r niwl godi roedd yna ychydig o adar mudol o gwmpas yn cynnwys Telor yr Ardd, 34 Telor yr Hesg, 6 Gyddfwen, Telor Penddu, 15 Siff Saff, Telor yr Helyg a 6 Gwybedog Brith, 21 Tinwen. Roedd y tywydd yn dawel a'r awyr yn glir heddiw a gwelwyd 250 o Wenoliaid, 55 Gwennol y Bondo, 20 Gwennol y Glennydd, 2 Pibydd y Tywod, 6 Pibydd y Mawn, 2 Morwennol Bigddu, Gwylan Penddu, 14 Gwennol Ddu, 2 Pila Gwyrdd, 4 Pengoch.
Roedd y tywydd yn dynerach i'r gloynod byw ac fe welwyd 37 Gla Cyffredin, 6 Copr bach a 70 Gwythien Gwyrdd Gwyn yn y caeau rhwng Ty Pellaf a Christin.
Dydd Mercher Mai 19eg
Tywydd niwlog dros nos wedi dod ac ychydig o adar mudol i'r ynys: 22 Telor yr Hesg, 6 Gyddfwen, 17 Gwybedog Brith,Corhedydd y Coed, 3 Gwennol Ddu, 100 Gwennol, 15 Gwennol y Bondo, 3 Gwennol y Glennydd, 5 Pengoch, 2 Durtur Dorchog, 17 Pibydd y Mawn, Cwtiad Dorchog, 4 Coegylfinir, 3 Cwtiad y Traeth.

Dydd Mawrth Mai 18ed

Gwelwyd un Pibydd y Tywod a dyma oedd uchafbwynt y dydd, 3 Pibydd y Mawn, 45 Gwennol, 12 Tinwen, 4 Telor yr Hesg, Tinwen, 5 Gwybedog Brith a 2 Pengoch Lleiaf.

Dydd Llun Mai 17eg
Gwelwyd Bran Lwyd yn hedfan i'r Gogledd dros yr ynys yn y bore, 400 o Wenoliaid, 4 Gwennol y Glennydd, 33 Gwennol y Bondo, 3 Durtur Dorchog, 15 Telor yr Hesg a 6 Gwybedog Brith.
Dydd Sul Mai 16eg.
Tywydd braf a chynnes, ychydig o adar o gwmpas ond gwelwyd Siglen Felen yng nghanol y gwartheg, Crec yr Eithin, Gwalch Bach. 35 Telor yr Hesg, 17 Gyddfwen, 2 telor Gwyrdd, 7 Gwybedog Brith,32 Tinwen, 200 Gwennol, 20 Gwennol y Bondo, 3 Gwennol y Glennydd, 2 Pibydd y Tywod, Pibydd y Dorlan. 3 Turtur Dorchog, 3 Pengoch.