15/05/2010



Dydd Iau Mai 13eg
Mae'r gwynt wedi troi i'r de ond dim ond ychydig o adar welwyd. gwelwyd yr ail Wybedog Brith eleni, 8 Gwybedog Mannog, 2 Corhedydd y caed, 86 Tinwen, 31 Telor yr Hesg, 9 Gyddfwen, 2 Telor y Gwair, 3 Telor Penddu,9 Siff Saff a 15 Telor yr Helyg. Gwelwyd 11 Cwtiad Torchog ar y traeth gyda 14 Pibydd y Mawn a Pibydd y Tywod, 2 Turtur Dorchog, Bwncath a Cudyll.




Dydd Mercher Mai 12ed
Roedd yr aderyn gorau wedi mynd ers 7 y bore sef Sgiwen Frech. 60 Tinwen, 16 Llinos Bengoch, Pibydd y Tywod, Rhostog Gynffonfrith, 11 Coegylfinir, 2 Gylfinir, 12 Cwtiad y Traeth, Pibydd Du, 11 Pibydd y mawn a Giach.
Dydd Mawrth Mai 11eg
Ychydig o newid ers ddoe ond gwelwyd gip ar Bod y Gwerni yn hedfan dros y rhan deheuol a Bran Lwyd yn y bore. 100 Tinwen, Crec yr Eithin, 11 Telor yr Hesg, 5 Gyddfwen, 5 gwybedog Mannog.


Dydd Llun Mai 10ed
Gwelwyd y Fran Lwyd ar y culdir a Pibydd y Tywod ar Solfach gyda'r Rhostog Gynffonfrith a 7 Cwtiad Torchog. 6 Gwybedog Brith, Crec yr Eithin, 20 Telor yr Hesg, 13 Gyddfwen, 6 telor Penddu a 4 Gwennol Ddu.

Dydd Sul Mai 9ed.
Gwelwyd 139 Tinwen. 3 Crec yr Eithin 3 Gwybedog Mannog, 22 Telor yr Hesg, 7 GYddfwen, 10 Telor Penddu, 2 Telor y Gwair, Telor yr Ardd, Jac Do, 25 Llinos Bengoch yn cynnwys 15 o rai lleiaf. Roedd y Rhostog Gynffonfraith yn Solfach yn y bore a Pibydd y Tywod yn y pnawn. Cofnodwyd 10 Cwtiad y Traeth, 18 Pibydd y Mawn a Giach yn Nant a 2 Wennol Ddu yn hedfan drosodd.
Dydd sadwrn Mai 8ed.
Bran Lwyd oedd yr aderyn gorau y diwrnod a'r Gwcw hefyd. Gwelwyd Corhedydd y Coed, Crec yr Eithin Telor y Gwair, Bras y Cyrs, 9 Telor Penddu, 4 Tinwen, 6 telor yr hesg, 3 Siff saff, 11 Telor yr helyg, 3 Gwybdog Mannog, 2 Pibydd, 5Pibydd y Mawn, 2 Wennol Ddu.

Dydd Iau Mai 7ed.
Roedd y rhan fwyaf o'r adar mudol gyrhaeddodd ddoe wedi mynd erbyn heddiw. Tinwen 140, 27 Telor yr Hesg 11 Gyddfwen, 7 Telor Penddu, 3 Siff Saff, 16 telor yr helyg hefyd Siglen felen, Crec yr Eithin, gwybedog Mannog, 54 Wennol,11 gwennol y Bondo, 6 gwennol y Glennydd, 15 Llinos bengoh, 25 Nico 2 Pila Gwyrdd, 4 Jac do a 6 Ydfran, Bwncath a Cudyll, 6 Cwtiad Torchog, Pibydd y Mawn a Rhostog Gynffonfrith.
Mae'r gwyfynod cyntaf wedi cyrraedd yr ynys erbyn heddiw.

14/05/2010






Dydd Iau Mai 6ed.
126 Telor yr Hesg gydag 1 efo modrwy o Ffrainc arni. 33 Gyddfwen yn yr eithin yn y rhan deheuol a 29 arall o gwmpas yr ynys.22 Telor Penddu, 9 Telor y Gwair, 2 Telor yr Ardd, Gyddfwen Leiaf, 8 Siff Saff ac 80 Telor yr helyg, 8 Gwybedog Mannog, 2 Crec yr Eithin, Tingoch smart gwryw a Corhedydd y Coed, 127 Tinwen, 129 Wennol, 11 Gwennol y Glennydd, 9 Gwennol y Bondo, 5 gweenol Ddu, 19 Nico, 9 Llinos Bengoch a Plia gwyrdd, 18 Siglen Wen ar Solfach. 2 Giach, 13 Coegylfinir, 6 Pibydd y Mawn, Pibydd Cyffredin a Rhostog Gynffonfrith. Yr aderyn gorau heddiw oedd Cwtiad Aur yn ei blu haf a gyrhaeddodd yn y pnawn.
Dydd Mercher Mai 5ed
Diwrnod tawel arall.12 Gyddfwen a 12 telor yr Hesg.2 Gwybedog Mannog a Gyddfwen Leiaf , 4 Telor Penddu, telor yr Ardd, 8 Siff Saff a 12 Telor yr Helyg. Gwelwyd Cudyll yn Nant ac roedd y Giach wedi ei weld eto a Rhostog Gynffonfrith arall wedi ymuno efo'r un cyntaf gyda haid o Gylfinir.
Gwelwyd Neidr Ddafad yng ngardd Cristin.


Dydd Mawrth Mai 4ydd.
Ychydig o adar oedd o gwmpas heddiw. 2 Gwybedog Mannog,1 Gyddfwen Leiaf, 10 Telor yr Hesg, 2 telor y Gwair, 9 Siff Saffac 13 Telor yr Helyg. Gwelwyd Giach yn y bore ac roedd y Rhostog Gynffonfrith, 16 Coegylfinir a 3 Pibydd y mawn yn dal yma.1 Gwennol Ddu, 48 Wennol, 6 gwennol y Bondo,4 gwennol y Glennydd, a Turtur Dorchog yn canu yn Ty Nesaf ac Morwennol Bigdduar yr arfordir.

07/05/2010





Dydd Sul Mai 2il

Mae'r gwynt yn dal yn y gogledd ac felly nid oeddem yn disgwyl llawer o adar. Cofnodwyd Crec yr Eithin a Gyddfwen leiaf at restr eleni. Gwelwyd Sgiwen Fawr yn hedfan dros y mynydd yn cael sylw gan y gwylanod.Roedd Turtur a Turtur Dorchog, Gwylan Gyffredin a 3 Morwennol Bigddu yn pasio heibio ac roedd Cudyll yn y rhan Gogleddol. Gwelwyd 12 Tinwen, 18 Siglen Wen, 80 Wennol, 11 Gwennol y Bondo, 7 Gwennol y Glennydd, Telor y Gwair, 8 Telor yr Hesg, 8 Telor penddu, 3 Gyddfwen,Telor yr Ardd, 13 Telor yr Helyg a 5 Siff Saff.Gwelwyd Ydfran, 28 Nico,, 2 Pila gwyrdd, 2 llinos Werdd a Llinos Bengoch yn y bore.Daliwyd a modrwywyd Rhostog Gynffonfrith ar draeth Solfach ar ol iddi dywyllu.



Dydd Sadwrn Mai 1af.

Diwrnod tawel a phleserus gydag ychydig o adar.O'r diwedd roedd Telor yr Ardd wedi cyrraedd heddiw. Turtur yn y caeau ar, a Siglen ar Solfach cafwyd trafodaeth pa un oedd hon.Cofnodwyd 21 Telor Penddu yn cynnwys 11 a fodrwywyd yng Nghristin, teloriaid eraill oedd 6 Gyddfwen, 7 Telor yr hesg, 2 Droellwr bach, 6 Siff Saff a 22 Delor yr helyg. Gwelwyd 180 o wenoliaid, 16 Gwennol y Glennydd a 12 Gwennol y Bondo yn hedfan i'r gogledd. Roedd 2 Mor wennol bigddu yn ymyl Solfach ac roedd Rhostog Gynffonfrith yn dal ar y traeth a cofnodwyd 21 Siglen Wen a 28 Tinwen.Roedd ychydig o linosiaid yn dal i symud yn y bore yn cynnwys 15 Asgell fraith, 15 Nico, 6 Pila Gwyrdd, 2 Llinos Werdd a Llinos bengoch leiaf.
Dydd Gwener Ebrill 30ain.
Roedd y tywydd heddiw yn ei gwneud yn annodd i weld adar yn enwedig pa Foda a welwyd yn hedfan yn uchel yn yr awyr.Gwelwyd Gwydd Wyllt wedi aros ar y culdir yn y pnawn a gwenoliaid du yn pasio drwodd yn ystod y dydd, hefyd 26 Siglen Wen, 7 Telor yr Hesg, 4 Telor Penddu, 6 Siff Saff 14 Telor yr Helyg,12 Nico a 5 Llinos Bengoch.Roedd Rhostog Gynffonfrith a Pibydd Cyffredin yn dal o gwmpas gyda 12 Coegylfinir a 2 Cwtiad Torchog oedd wedi dechrau nythu, y tro cyntaf ers 2003.

01/05/2010


Dydd Sadwrn Ebrill 24ain

Gwelwyd 120 Telor yr Helyg,3 Corhedydd y Coed, 25 Telor Penddu, 15 Telor yr Hesg tua dwsin o Fronwen, aeth tua 300 o wenoliaid dros yr ynys yn y pnawn gyda 80 o Wenoliaid y Glennydd.

Gwelwyd Titw Tomos las yn yr helyg ac yna yn Nant.

Gwelwyd nifer dda o Pibydd y Mawn heddiw gyda 24 yn bwydo yn nwr tawel Solfach.



Y gwahaniaeth rhwng traed Gwennol y Bondo a gwennol y Glennydd yw fod yna blu ar goesau y Bondo oherwydd eu bod yn clwydo mewn llefydd oerach ac felly yn cadw eu coesau yn gynnes. Mae Gwennol y Glennydd yn clwydo mewn cyrs a does ganddynt ddim plu ar eu coesau.


Ar ol diwrnod da yn defnyddio y rhwyd yn Henllwyn buont wrthi eto gyda'r nos. Daliwyd Gwennol y Bondo a oedd yn ychwanegol i rifau sydd wedi cael eu modrwyo eleni a daliwyd gwennol y Glennydd arall.

Dydd Gwener Ebrill 23ain.

Gwelwyd Mor wennol bigddu gyntaf y flwyddyn heddiw roedd tua 4 yn pysgota ar yr ochr orllewinol.