28/04/2010




Gelwyd Bran Lwyd y rhan fwyaf o'r dydd dros y cae gwair.
Mae llawer iawn o Dinwen o gwmpas ar hyn o bryd.Cofnodwyd 60 ohonynt.






































Dydd Iau Ebrill 22ain.
Roedd hi'n gyda'r nos braf i geisio defnyddio tap a rhwyd ar gyfer dal Gwennol y Glennydd dros Henllwyn Ers i'r Wylfa gael ei sefydlu ym 1953 dim ond 15 Gwennol y Glennydd sydd wedi cael eu modrwyo. Roedd y rhain arwahan i 4 wdi cael eu dennu at y goleudy felly roedd yn braf cael dal 3 o'r adar yma ynghyd a Wennol, canlyniad da iawn.



Dydd Mercher Ebrill 21ain.


Mae wedi bod yn ddistaw heddiw o ran adar ond yr uchafbwynt oedd gweld Cog uwchben Cristin.






Dydd Mawrth Ebrill 20ed
Mae'r rhan fwyafo'r Teloriaid Penddu yn rhan gogleddol yr ynys yn dangos powdr melyn ar y plu ger waelod y pig. Roedd y rhai beinw hefyd ond oherwydd y pen brown doedd ddim mor amlwg.Y rheswm am hyn yw'r coed eirin sydd wedi cael eu plannu yng nghoed helyg Cristin a Nant.Mae'r Teloriaid yn brysur yn ymweld a'r blodau.Ar ol edrych yn fanwl does dim pryfaid yn y blodau felly mae'n debyg eu bod ar ol y neithdar.Nid ydynt yn edrych eu bod yn gwneud niwed i'r blodau flly fe fyddwn yn bwyta jam eirin teloriaid Penddu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.


Oherwydd fod yna lawer o gynron ymysg y gwymon gwelwyd llawer math o adar. Mae'r rhain yn gyfrifol am y niferoedd o adar ar Solfac ar yn o bryd.


Mae Brain Llwyd yn brin yng Nghymru.Gwelwyd 4 ar yr ynys heddiw.

24/04/2010

Llongyfarchiadau Richard Else

Y mis yma yn Llanw Llyn cafwyd canmoliaeth mawr i Richard Else am ei erthygl yn Llanw Llyn llynedd o dan Pobl Enlli. Roedd y beirniad Ioan Roberts wedi mwynhau darllen yr erthygl yn enwedig am ei waith gyda'r adar drycin Manaw ac fod un wedi byw i fod yn 50 oed!. Da iawn Richard a diolch am fod yn fodlon sgwennu.











Dydd Llun Ebrill 19eg

18/04/2010





Dydd Mercher Ebrill 14 eg.
Ar ol prysurdeb ddoe, roedd heddiw yn siomedig. Gwelwyd Gwydd Wyllt yn y bore.Daliodd y modrwywyr oedd yn aros yn y Wylfa Llinos Bengoch a rhai Cyffredin yn ogystal a gweld Nico. Telor Penddu, 16 Siff Saff a 4 Telor yr Helyg oedd yr unig rai ar ol o'r teloriaid. Roedd y Giach yn dal yn y tiroedd isel a durtur Dorchog yn eistedd ar ben y trap Heligoland.



Dydd Mawrth Ebrill 13eg.
Aderyn y diwrnod, y flwyddyn a'r degawd yw Bras yr Yd.Hedfanodd dros Nant o flaen y warden ac yna hedfan at yr eithin oedd wedi llosgi ar ochr y mynydd. Hwn oedd y cofnod cyntaf ers 1994 a'r 2il ers 1953.Yn ogystal gwelwyd 2 Alarch Ddof y 7ed i'r ynys, Siglen Felen, Pinc y Mynydd yr un Golfan y Mynydd a'r Gyddfwen cyntaf y flwyddyn.

Dydd Llun Ebrill 12ed.
Yn gynnar yn y bore gwelwyd Tylluan Glustiog yn cael ei erlid gan y brain yn y tiroedd isel, Gwydd Wyllt yn hedfan dros yr ynys.Yn nes ymlaen gwelwyd Gwylog Du yn ei blu haf ddim yn bell o gornel y gogledd orllewin,Penfelen yn hedfan yn uchel, Mwyalchen y Mynydd y cyntaf o'r gwanwyn wedi cael ei weld ger Ty Capel.Cofnodwyd 20 Tinwen oddi amgylch yr arfordir. Daliwyd Llinos Bengoch Gyffredin yn rhwydi Cristin. Gwelwyd Cornchwiglen ar yr ochr ddeheuol, cyrhaeddodd 2 Ydfran efo Brain Tyddyn, Bronfraith a Socan Eira, Giach yn yr ardaloedd gwlyb a Durtur Dorchog yn canu yng Nghristin.

15/04/2010

Dydd Sul Ebrill 11eg
Diwrnod braf tawel gyda nifer da o adar mudol o gwmpas. Buom yn modrwyo y rhan fwyaf o'r diwrnod a daliwyd nifer dda gyda 2 Droellwr Bach yr uchafbwynt mewn rhwyd yn Cristin.Gweler y lluniau a chymharu yr adar.






Dydd Sadwrn Ebrill 10ed.
Cafwyd gair gan y bore godwyr eu bod wedi gweld Croesbig a Chorhedydd y Coed ac yna yn hedfan dros rhan ddeheuol yr ynys ac yn well fyth gwelwyd Golfan y Mynydd.Roedd yn ddiwrnod braf eto ac yn dawel ac felly gadawyd y rhwydi allan drwy'r pnawn. Cofnodwyd 90 Siff Saff, 87 Telor yr Helyg ac roedd llawer o'r rhain wedi eu dal aú modrwyo yn ystod y dydd ynghyd a 6 Telor Penddu,14 Nico a daliwyd Llinos Bengoch ger Cristin ac ar ol edrych yn fanwl gwelwyd mai yr un cyffredin oedd, sef y cyntaf o'r flwyddyn. gwelwyd Llinos bengoch, Titw Mawr 4 Pila gwyrdd, 10 Dryw Eurben, 2 Ydfrain Bronfraith a Turtur Dorchog.
Dydd Gwener Ebrill 9ed.
Diwrnod tawel arall wedi dod ac amrywiaeth o adar mudol i'r ynys a rhestr da o amrywiaeth o adar wedi cael eu gweld erbyn diwedd y dydd. Ar ol dechrau araf i'r diwrnod gwelwyd 2 Drochydd Mawr dros y rhan deheuol. Yr un cyntaf o'r adar mudol welwyd oedd Llinos Bengoch Cyffredin a oedd yn canu ger ty'r ysgol, hwn oedd y cynataf o'r flwyddyn.Ychydig o amser wedyn gwelwyd Corhedydd y Coed un arall yn ychwanegol at restr y flwyddyn.Yn nes ymlaen gwelwyd Bod Tinwen yn rhan gogleddol yr ynys.Daliwyd Dryw Penfflamgoch mewn rhwyd yn Nant a oedd yn braf iawn i'r rhai oedd yn gweithio yn y rhan yma o'r ynys.Cofnodwyd 40 Telor yr Helyg. 30 Siff Saff, 9 Dryw Eurben, 7 Tinwen, 10 Siglen Wen, 16 Gwennol y Glenydd, 13 Wennol, Pibydd Aur, Bras y Cyrs,5 Llinos Bengoch, Coch dan Adain, Jac Do ac Ydfran.

Gwelwyd pili pala yn ystod y dydd a nifer o Llabedyddiol yn torri drwy lyfnder y tonnau gyda'r nos.

Yr adeg yma o'r flwyddyn mae'r Tylluanod Bach yn brysur iawn ac fe aethom ati i'w dal a'u modrwyo ar ol iddi dywyllu, daliwyd oedolyn gwryw yn fuan iawn a rhoi golygfa dda iawn yn agos i'r ymwelwyr.


Dydd Iau Ebrill 8ed.
Diwrnod bendigedig gydag ychydig o awel a heulwen yn golygu fod y rhwydi dal adar wedi eu gadael yn agored drwy'r pnawn.Roedd digon o adar o gwmpas er fod yna lai na ddoe. Gwelwyd 11 Telor Penddu, 43 Siff Saff a 28 Telor yr Helyg.

14/04/2010

Dydd Llun Ebrill 5ed.
Diwrnod gwyntog iawn, gwelwyd Trochydd Gyddfgoch yn hedfan drwy'r Swnt gyda dim ond 9 telor yr Helyg a 6 Siff Saff.
Dydd Mawrth Ebrill 6ed.
Diwrnod gwyntog arall ond gwelwyd Sgiwen fawr yn hedfan heibio'r ynys yn y bore.Gwelwyd 21Telor yr Helyg a 10 Siff Saff, 5 Dryw Eurben 2 Pila Gwyrdd,4 Nico a 2 Sigl di gwt gwyn.
Dydd Mercher Ebrill 7ed.
Roedd y tywydd tawelach wedi dod a llawer o adar mudol heddiw.Diwrnod braf i wylio adar yn cynnwys Telor y Gwair cyntaf y flwyddyn yn cynnwys 125 telor yr Helyg, 44 Siff Saff, 239 Corhedydd y Waun,61 Gwennol 17 Gwennol y Glennydd, ac 8 Gwennol y Bondo yn pasio drwodd. 17 Siglen Fraith, 12 Siglen Wen, 4 Coch dan adain,3 Tinwen, 7 Nico, Tingoch Du, 2 Cudyll bach, 2 Bwncath, Giach Fach a Giach ac roedd 2 Cwtaid Torchog ar Solfach. Gwelwyd 37 Aderyn Drycin y Graig, 13 Mor hwyaden ddu, 6 Gwylan benddu a 2 Gwylan Gyffredin.

13/04/2010

Dydd Sul Ebrill 4ydd.
Roedd rhfau y teloriaid i lawr erbyn y bore ac ychydig o adar mudol oedd o gwmpas. Gwelwyd Tingoch Du ger cilfach y warden a hwn oedd aderyn gorau'r diwrnod ond roedd 2 Sigl di gwt gwyn, 13 Wennol, a Gwennol y Bondo o gwmpas. Cofnodwyd 80 Corhedydd y Waun a 2 Sigl di gwt gwyn ar y traeth.
Yn y Gwanwyn mae'n dda gweld cynifer o adar mor ar Enlli.Cofnodwyd 130 o Biod y Mor,53 Cwtiad y Traeth, 49 Pibydd Coesgoch,26 Pibydd Du, 3 Cwtiad Torchog, 3 Gylfinir a Coegylfinir.Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn cysgodi yn Henllwyn er fod rhai yn annodd i'w gweld yn enwedig y Pibydd Du yng nghanol y creigiau gyda gwymon arnyn.

05/04/2010



Dydd Sadwrn Ebrill 3ydd
Diwrnod braf i wylio adar ond ddim byd arbennig.Gwelwyd 3 ceiliog Telor Penddu yng ngardd Cristin yn cynnwys un yn canu.Cofnodwyd 26 Telor yr Helyg gyda 12 Siff Saff a 2 Dryw Eurben. Aeth Gwennol y Glennydd a 13 Wennol yn gyflym i'r Gogledd tra roedd 4 Tinwen a Tingoch Du wedi aros ger y culdir. Gwelwyd y Bwncath cyntaf ers diwrnodau a'r Cudyll Bach, Cudyll Glas, Hebog Tramor yn hela. Roedd y Brain Coesgoch a Clochdar y Cerrig yn cario deunydd nythu.



Dydd Iau Ebrill 1af
Ar ol y gwyntoedd stormus ddoe mae heddiw yn teimlo'n dawelach gyda glaw ysbeidiol.Mae 5 telor yr Helyg a 3 Siff Saff yn dal yn Henllwyn yn hapus yn bwydo ymysg y gwymon a 2 Tinwen ar Solfach.Gwelwyd mwy o Deloriaid yr Helyg a Siff Saff yn Nant.Mae'r Cwtiad Torchog yn dal yn Solfach a Pibydd yr Aber hefyd.Uchafbwynt y diwrnod oedd gweld Trochydd Mawr yn bwydo ychydig oddi allan i geg Solfach.Gwelwyd 2 Bras y Cyrs yn hwyr yn y pnawn.