05/04/2010

Dydd Mawrth, Mawrth 30ain.
Cafwyd gwyntoedd ysgafn o'r De Orllewin yn ei gwneud yn haws i wylio adar ben bore.Roedd yn amlwg fod llawer iawn o Deloriaid wedi cyrraedd ond erbyn 8 o'r gloch y bore roedd y gwynt wedi troi i'r Gogledd,wedi cryfhau gyda gwyntoedd rhewllyd a glaw trwm. Gwelwyd 5 Tinwen, 3 Telor Penddu, 5 Dryw Eurben, 2 Tingoch Du a 2 Wennol, ond y mwyafrif yr adar oedd Telor yr Helyg a Siff Saff.Roedd lleiafswm o 60 Siff Saff a 40 Telor yr Helyg ar hyd pen y waliau ac o un coed helyg i'r llall yn meddwl fod llawer iawn o symudiad yn ystod y dydd. Ar Solfach gwelwyd Cwtiad Llwyd cyntaf y tymor yn ogytal a 3 Cwtiad Torchog.

No comments: