18/04/2010

Dydd Llun Ebrill 12ed.
Yn gynnar yn y bore gwelwyd Tylluan Glustiog yn cael ei erlid gan y brain yn y tiroedd isel, Gwydd Wyllt yn hedfan dros yr ynys.Yn nes ymlaen gwelwyd Gwylog Du yn ei blu haf ddim yn bell o gornel y gogledd orllewin,Penfelen yn hedfan yn uchel, Mwyalchen y Mynydd y cyntaf o'r gwanwyn wedi cael ei weld ger Ty Capel.Cofnodwyd 20 Tinwen oddi amgylch yr arfordir. Daliwyd Llinos Bengoch Gyffredin yn rhwydi Cristin. Gwelwyd Cornchwiglen ar yr ochr ddeheuol, cyrhaeddodd 2 Ydfran efo Brain Tyddyn, Bronfraith a Socan Eira, Giach yn yr ardaloedd gwlyb a Durtur Dorchog yn canu yng Nghristin.

No comments: