24/07/2010


Dydd Mercher Gorffennaf 21ain

Roedd hi'n dawelach heddiw o ran adar, ond gwelwyd ceiliog Croesbig yn cael diod ger yr odyn galch, 27 Telor yr Helyg, Telor y Gwair, Giach, Pibydd y Dorlan, 2 Gwennol Ddu, Drudwy, 6 Mor Hwyaden Ddu.



Dydd Mawrth Gorffennaf 20ed

Roedd y gwynt wedi gostegu ond fod yr awyr yn gymylog ac yn dywyll.Roedd llawer o adar mudol wedi cyrraedd gan eu bod wedi cael eu denu at olau'r goleudy.Yn y rhan Ddeheuol roedd llawer o Deloriaid yn y gwrychoedd, 60 Telor yr Helyg, 25 Telor y Gwair, 8 Telor yr Hesg, Crec yr Eithin, 6 Giach Fach, Gwylan Mor y Canoldir, 17 Gwylan Penddu, 6 Creyr Glas, 40 gwennol y Glennydd, 9 Gwennol Ddu, Durtur Dorchog, Pila Gwyrdd, 2 Pibydd y Mawn, 3 Pibydd y Dorlan, 11 Pibydd Coesgoch, 3 Coegylfinir, 2 Gylfinir, Creyr Glas, 13 Mor Hwyaden Ddu. Gwelwyd hefyd Ddolffiniaid Risso sef 3 llawn maint ac un bach ger y rhan Deheuol yr ynys.


Dydd Sadwrn Gorffennaf 17eg

Gwelwyd 3 Telor yr Helyg yn dechrau symud i'r De, Cudyll Coch yn aderyn newydd, 2 Pibydd y Dorlan, 13 Pibydd Coesgoch, 4 Coegylfinir, Gylfinir.

Dydd Gener Gorffennaf 16eg

Dyma lun o granc pry copyn sydd yn mor oddi amgylch yr ynys.





Dydd Iau Gorffennaf 15ed.

Cafwyd gwyntoedd cryf a llanw uchel yn gwthio yr adar yn uwch i fyny'r traeth. 6 Pibydd Coesgoch, 4 Pibydd y Dorlan, 5 Cwtiad y Traeth, Pibydd Du cyntaf ers Ebrill/ Mai ar greigiau ger Solfach, 70 Hugan, 400 Adar Drycin Manaw yn pasio heibio. Ar Solfach roedd 8 gwylan Penddu, 76 gwylan Benwaig, a Pibydd y Mawn yn ceisio osgoi y tonnau.




Dydd Mawrth Gorffennaf 13eg.

Aethom am y tro olaf i'r ochr Ddwyreiniol ond dim ond 2 gyw Llurs oedd ar ol ac un Pedryn ymysg y cerrig.Gwelwyd 6 Creyr Bach o gwmpas bore heddiw ar y culdir. 52 Gylfinir, Coegylfinir, 5 Pibydd y Dorlan, 4 Pibydd y Mawn, 5 Pibydd Coesgoch, 5 cwtiad y Traeth, 24 Mor Hwyaden Ddu, 63 Gwylan benddu yn bwydo yn Solfach, 8 gwennol y Glennydd,13 gwennol y Bondo, 28 gwennol Ddu,




Dydd Llun Gorffennaf 12ed

Ar ol diwrnodau tawel o wylio adar gelwyd 11 Creyr Bach yn pasio, dim ond 15 sydd wedi cael eu cofnodi o'r blaen ar Enlli. 6 Creyr Glas.





9-7-10

Diwrnod tawel o ran adar, roedd Mor Wennol y Gogledd yn llechu yn y niwl bore heddiw a 4 Pibydd y Dorlan o gwmpas yr arfordir.36 Gylfinir, a Coegylfinir.Ceisiwyd dallu Pibydd y Dorlan ond dim ond dal Cwtiad Torchog wnaethont ac 80 Adar Drycin Manaw.

10/07/2010




Dydd Mawrth Gorffennaf 6ed.

21 Pibydd Cyffredin,gyda 14 ar yr ochr Orllewinol, Creyr Glas, 12 Mor Hwydaen Gyffredin, 2 Siglen Lwyd ar yr ochr ddeheuol, 7 Gwennol Ddu yn y Gogledd ac yn Nant 2 Durtur Dorchog, 3 Lloinos Bengoch Leiaf yn y gerddi, telor y Gwair yn dal o gwmpas a'r Parakeet fel petai ar goll.


Dydd Llun Gorffennaf 5ed.

Gwelwyd Pibydd Gwyrdd yn y pyllau o dan Nant, a chlywyd ei alwad fel yr oedd yn tywyllu yn mynd tua'r de. 75 Hugan, 29 Gwylan Benddu.

06/07/2010


Yr adeg yma o'r flwyddyn mae'r staff yn mynd ar eu gwyliau, y warden a'r teulu a Richard Else.Fel arfer ychydig o adar sy'n symud ac mae hi'n weddol dawel. Maent yn haeddu seibiant ar ol bod mor brysur.


Mae'n braf gweld yr holl adar sydd wedi nythu o gwmpas gyda'u cywion. 323 o Llurs wedi eu modrwyo sef mwy o 50 nag mewn tymor o'r blaen. Ar drip cwch gwelwyd 100 Pal, 1000 o Wylogod ar ochr y clogwyni, 100 o gywion gwylanod Penwaig. gwelir teuluoedd o Hebog Tramor a Brain Coesgoch o gwmpas, Cwtiad Torchog, Piod y Mor swnllyd, Gyddfwen, Siff Saff, Telor yr Hesg yn brysur yn bwydo a'r Wenoliaid gydag ail nythiad.

Dydd Iau Gorffennaf 1af
26 Creyr Glas, Pibydd y Dorlan, telor y Gwair, Parakeet.

Dydd Mercher 30ain Mehefin
Ar y diwrnod olaf o Fehefin gwelwyd 28 Gwennol Ddu, 27 Mor Hwyaden Ddu, Creyr Glas.


Dydd Mawrth 29ain Mehefin

10 Mor Hwyaden Ddu, 3 Drudwy, Parakeet a Telor y Gwair.





Dydd Mawrth 29ain Mehefin
10 Mor Hwyaden Ddu, 3 Drudwy, Parakeet a Telor y Gwair.

Dydd Llun 28ain Mehefin
Gwybedog Brith ger planhigfa Nant, 8 Pibydd y Mawn, 11 Drudwy, Durtur Dorchog,Parakeet, Telor y Gwair.

Dydd Sul 27ain Mehefin
16 Gylfinir,9 Pibydd Coesgoch, Cornchwiglen ger y Tir Cul, 19 Gwylan Benddu yn mynd i'r De, Durtur Dorchog, Parakeet, Telor y Gwair yn dal i ganu i'r nos eto.

Dydd Sadwrn 26ain Mehefin
Roedd hi'n dywydd braf heddiw a gwelwyd Hebog yr Ehedydd arall yn hedfan i'r De heibio'r goleudy, 26 Drudwy ar y rhan deheuol a Bwncath yn hedfan uwchben y mynydd, 3 Gwennol Ddu, Durtur Dorchog a Parkeet yn bwydo ar y daliwr cnau yng Nghristin, yna am 11.00pm clywyd y Telor y Gwair yn gwneud swn yn yr hesg ac aeth ymlaen i berfeddion y nos.

Dydd Gwener 25ain Mehefin
Turtur yn y pnawn, Bwncath cyntaf ers peth amser, Drudwy, 13 Gwennol Ddu, Pila Gwyrdd, Parakeet, 9 Gylfinir, Coegylfinir a 2 Pibydd Coesgoch.

Dydd Iau 24ain Mehefin
Hebog yr Ehedydd, Pila Gwyrdd yng ngardd Cristin, 4 Pibydd Coesgoch ar Carreg yr Honwy, 1 Creyr Glas, 3 Gwennol y Bondo a Parakeet.

Dydd Mercher 23ain Mehefin
Gwelwyd 2 Greyr Glas, 9 Gylfinir,Coegylfinir a Pibydd Coesgoch.