30/03/2010




Dydd Gwener Mawrth 26ain
Dydd Mercher yn ddiwrnod tawel a doedd yna ddim llawer o adar o gwmpas, yr uchafbwynt oedd Telor yr Helyg cyntaf y flwyddy wedi ei weld yng ngwiail Plas.
Dydd Iau yn ddiwrnod gwell, gwelwyd 3 Wennol y Glennydd a 2 Wennol yn troelli yn yr awyr yn golygu fod y Gwanwyn ar y ffordd er eu bod yn gaddo tywydd oerach yr wythnos nesaf. Adar eraill sydd o gwmpas yw 31 Siff Saff, a 5 Telor Penddu yn Nant gyda 2 Delor yr Helyg a 4 Dryw Eurben.Roedd yna Delor yr Helyg yng ngwiail Plas a 9 Tinwen ar y culdir.Gwelwyd Cwtiad Aur yn sydyn yn y bore a hedfannodd Cornchwiglen o amgylch y rhan Deheuol.Roedd 1 Tingoch Du yn Ty Pellaf.
Dydd Gwener Dechreuodd y diwrnod gydag awyr clir ac awel ysgafn o'r De.Arhosodd llawer o'r adar a welwyd ddoe, 14 Siff Saff, 2 Delor yr Helyg, 4 Telor Pendduac ychydig o Ddryw Eurben yn Nant. Yn yr Helyg roedd yna geiliog a iar Corhwyaden yn bwydo gyda Hwyaden Wyllt. Roedd yna 6 Tinwen a Wennol ar y culdir a Thingoch Du ar y wal ger Cristin.



Dydd Mawrth, Mawrth 23ain
Roedd heddiw yn ddiwrnod tawel arall, gyda glaw trwm yn gynnar yn y pnawn. Yn y bore gwelwyd haid fechan o adar gyda 16 Llinos, 5 Dryw Eurben 2 Llinos Werdd.Gwelwyd 2 Dingoch Du ar waliau cerrig uwchben Ty Pellaf.Ar y culdir gwelwyd 5 Tinwen gyag un ceiliog yn dechrau canu. Gwelwyd ychydig o Siff Saff yn y tiroedd gwlyb ac roedd y 2 Gwtiad Torchog n dal ar y traeth.



Dydd Llun Mawrth 20ed
Dechreuodd y diwrnod yn annifyr iawn gyda glaw ysgafn a gwyntoedd cryf yn dod yn gryfach erbyn ganol y bore ond erbyn amser cinio daeth yr haul allan ac felly yr adar hefyd.Yng Nghristin roedd yna 9 Siff Saff yn bwydo ar y llysdyfiant gyda'r Dryw Penflamgoch yn galw gyda'r hwyr yn Nant, roedd yna 4 Siff Saff a 4 Dryw Eurben yn y blanhigfa tra roedd yna Tingoch Du yn Ty Nesaf. Roedd y Siglen Wen yn dal yn Solfach gyda 2 Gwtiad Torchog a 5 Tinwen ar y culdir.



Dydd Sul Mawrth 21ain
Oherwydd bore braf a chlir gwelwyd haid o Ddrudwy gyda 3000 wedi cael eu recordio. O amgylch yr arfordir gwelwyd 6 Tinwen y rhan fwyaf yn geiliogod a Chwtiad Torchog a Siglen Wen yn dal ar Solfach.O amgylch TyPellaf roedd yna 3 Tingoch Du. Yn y blanhigfa gwelwyd 6 Dryw Eurben newydd wedi cyrraedd a 2 o'r 8 SiffSaff yr ynys yma hefyd.Dim ond ambell Ddryw Eurben a Phila Gwyrdd recordiwyd a hedfanodd Croesbig i'r De dros Nant.Ers i'r Wylfa gael ei sefydlu dim ond 2 gofnod sydd yna ym mis Mawrth o'r Croesbig, haid o 4 yn Nant yn 2000 ac 1 yng Nghristin yn 2003. Dyma'r ail gofnod y mis Mawrth yma pan welwyd 2 yn hedfan dros Cristin ar yr 11eg.




Dydd Sadwrn Mawrth 20ed
Noson digon annifyr a chlywyd galwadau 2 Gwtiad Aur, yn golygu fod yr amgylchiadau yn addas ar gyfer atyniad goleudy.Erbyn y bore roedd yna ddwsin o Goch Dan Adain, Bronfraith, Cyffylog,Giach a Giach Fach yn agos at safle'r goleudy. Adar eraill a welwyd oedd 2 Pibydd yr Aber, Cornchwiglen a 2 Gwtiad Torchog o amgylch Solfach ynghyd a 3 Tinwen a 2 Siglen Wen. Gwelwyd 6 Socan Eira ymysg y Drudwy oedd yn bwydo ar y caeau ac roedd un Tingoch Du yn dal ar y fferm.Mae'r Dryw Penfflamgoch sydd wedi bod yn Gaeafu wedi dychwelyd i Gristin ac fe gofnodwyd 6 Siff Saff.

21/03/2010





Dydd Gwener Mawrth 19eg
Roedd gwawr niwlog y bore wedi troi allan i fod yn ddiwrnod bendigedig ac yn addo i fod yn dda o ran adar. Roedd 5 Tingoch Du yn cynnwys ceiliog bendigedig i'w weld yn aml ar hyd waliau cerrig ac adeiladau yr ynys.Ar Solfach roedd 3 Tinwen gyda Sigl di gwt gwyn cyntaf y flwyddyn a 3 Bras yr Yd yn cynnwys gwryw yn canu yn y de.

Mae'r 2 Durtur Dorchog yn dal yn Ty Nesaf er fod un ohonynt bron wedi bod yn fyd i'r Hebog Tramor. Disgynnodd y Durtur i'r creigiau sydd wedi eu gorchuddio a gwymon yn Henllwyn a medru cuddio yng nghanol y morloi llwyd.Pan welwyd hi wedyn yng nghoed pin Ty Nesaf yn hwyrach yn y dydd roedd wedi colli rhai o'i blu cynffon.

Dydd Iau Mawrth 18ed
Dim ond Pioden y Mor ddaliwyd drwy ei ddallu ar draeth Solfach yn y nos.Fel yr aeth y noson yn ei blaen roedd y tywydd yn gwaethygu ac erbyn hanner nos roedd y corn niwl yn canu.Roedd yn debygol y buasai yna atyniad yn y goleudy ond doedd yna ddim ac fe ddeffrodd adarwyr Enlli i ddiwrnod tawel o ran adar.Gwelwyd Tinwen gwahanol a oedd yn swil yng nghaeau Gogledd Orllewinol, ond dim ond 2 Siff Saff.Gwelwyd 3 ehedydd yn aml ar ochr Orllewinol yr ynys.


Dydd Mercher Mawrth 7eg
Roedd y lleuad newydd a'r tywydd niwlog neithiwr yn gyfle da i ddallu rhydyddion ar draeth Solfach.Daliwyd Pibydd Coesgoch a Phioden y Mor.Gwelwyd fod Pioden y Mor a oedd wedi ei fodrwyo; wedi cael ei fodrwyo llynedd yn gyw.Roedd Aderyn Drycin Manaw yn hedfan yn isel uwchben rhan cul yr ynys gydg un arall yn hedfan uwchben y ffarmwr pan roedd yn edrych ar ei braidd.
Deffrowyd y rhai oedd yn cysgu'n ysgafn am 4 o'r gloch gan y corn niwl yn meddwl efallai y buasai'r adar yn hedfan at olau'r goleudy.Yn fore iawn gwelwyd Telor Penddu, 3 Siff Saff, ac ychydig o Goch Dan Adain yn cysgodi mewn eithin yn rhan ddeheuol yr ynys.Daliwyd Siff Safff cyntaf y flwyddyn yn y trap yng Nghristin. Roedd yn dangos cyrn paill yn meddwl ei fod wedi bod mewn gwlad boeth dros y gaeaf ac nid wedi aros ym Mhrydain.Mewn llefydd eraill ar yr ynys gwelwyd Tingoch Du hardd, a'r Creyr Glas cyntaf ers wythnosau yn ymweld a'r pyllau canolig a Thinwen cyntaf y flwyddyn yng nghaeau Gogledd Orllewin yr ynys.






Dydd Mawrth, Mawrth 16eg
Cyrhaeddodd rhai o'r adar mudol yn ol heddiw gyda 5 Siff Saff a 2 Telor Penddu.Roedd ceiliog Tingoch Du hardd yn un o ddau a welwyd yn Ty Pellaf yn y pnawn. Yn ystod y nos clywyd yr Aderyn Drycin Manaw cyntaf yn galw drs y mynydd tu ol i'r Wylfa.

Wythnos Mawrth 11eg - 21ain


Dydd Iau Mawrth 11 eg

Gwelwyd Giach Fach yn agos iawn ddoe a gwelwyd 2 Croesbig yn hedfan tua'r De. Roedd Coch y Berllan a 2 Dryw Eurben yng Ngristin.Mae'r Dryw Eurben wedi cyrraedd er mai ychydig oedd y nifer.

Gwelwyd Tingoch Du yn y pnawn ac roedd 3 Trochdd Gyddfgoch yn dal ar yr ochr Orllewinol yr ynys.

10/03/2010

Dydd Mawrth, 9ed o Fawrth
Gwelwyd Tinwen cyntaf y flwyddyn ar yr ochr Ddeheuol yr ynys yn y pnawn. Modrwywyd Coch y Berllan ddoe.
Mae Steve,Emma a Connor wedi dychwelyd yn ol i'r Ynys. Mae Liz James wedi dod drosoddd am ychydig hefyd i helpu a sortio pethau allan ar ddechrau tymor yr ymwelwyr.(Fe gofiwch iddi wneud hyn llynedd - mae ei hanes o dan newyddion Pobl Enlli sef yr erthyglau sydd wedi ymddangos yn Llanw Llyn)Rhaid dweud fod y Wylfa yn edrych yn dda iawn o dan ofal Jim ac Elaine Lennon sydd wedi bod yn aros yng Nghristin dros y gaeaf.Diolch yn fawr iawn iddynt.

08/03/2010












Dydd Sul Mawrth 7ed.
Mae wedi bod yn wythnos well a dechrau da i mis Mawrth gyda Barcud Coch ar y 1af. Drwy gydol yr wythnos mae Giach Fach wedi bod yn y tiroedd gwlyb ( gwelwyd 2 ar y 4ydd a'r 5ed). Gwelir mwy o Sigl di Gwt yn ddiweddar wedi paru mewn gwahanol lefydd ar yr ynys. Mae Cor y Wig yn llenwi'r awyr gyda canu bendigedig ben bore. Mae'r Dryw Penfflamgoch yn dal yn Cristin. Dyma'r manylion:-
Dydd Mawrth, Mawrh 2il
Diwrnod bendigedig arall gydag awel dyner yn dod ac aderyn prin arall ger Henllwyn sef ceiliog a iar Hwyaden Frongoch yn gynnar yn y bore am ychydig cyn cychwyn am y dwyrain.Yn ogystal roedd Tingoch Du yn Henllwyn gyda 2 Gwtiad Aur yn hedfan yn uchel dros y Tir Cul. Roedd y Trochydd Gyddfgoch yn dal yn y lle arferol.
Dydd Mercher Mawrth 3ydd.
Diwrnod tawel gydag un trochydd Gyddfgoch o gwmpas.Drwy gydol y gaeaf mae Bran Goesgoch wedi bod yn dod at y bwrdd adar. Tuag unwaith yr awr mae Bran Goesgoch sydd wedi ei modrwyo yn dod i fwydo ar y bwrdd adar, mae'n hedfan o amgylch i edrych a oes rhywun o gwmpas ac yna deifio i lawr ar y bwrdd!
Efallai nad pawb sydd yn medru rhoi Bran Coesgoch ar y rhestr o adar sydd yn dod i fwydo ar eu bwrdd adar.
Dydd Iau Mawrth 4ydd
Gwelwyd Pila Gwyrdd cyntaf y flwyddyn gyda 4 yn y blanhigfa.Yn y pnawn daliwyd a modrwywyd Giach Fach a oedd wedi cael ei ddal gyda rhwyd yn y tiroedd gwlyb oherwydd ei bod mor dawel.Roedd y Trochydd Gyddfgoch yn dal oddi ar yr ochr Orllewinol.
Dydd Gwener Mawrth 5ed
Diwrnod tawel gyda Trochydd Gyddfgoch yr uchafbwynt a 2 Hugan allan ar y mor.
Dydd Sadwrn Mawrth 6ed
Roedd y Trochydd Gyddfgoch yn dal i fwydo gyda'r Mulfran Werdd ger Carreg yr Honwy tra roedd ceiliog Tingoch Du yn Traeth Ffynnon.
Dydd Sul 7ed.
Diwrnod eithaf tawel gyda 2 Drochydd Gyddfgoch oddi ar ochr Orllewinol a Corhwyaden yng ngwiail Plas.

06/03/2010

Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Colin (gyrrwr cwch Ynys Enlli) a Mair Evans, Uwchmynydd ar enedigaeth merch fach, Gwen Ellen a llongyfarchiadau i Ernest a Christine Evans ar ddod yn daid a nain am y tro cyntaf.

01/03/2010







Dydd Llun Mawrth 1af
Gorffennodd Chwefror yn ddistaw heb lawer o adar o gwmpas. Serch hynny mae'n braf cael gweld y Trochydd Gyddfgoch allan ar y mor. Gobeithio y daw y Gwanwyn yn gynnar ym Mawrth a dod a llawer iawn o adar i'r Ynys.
Drwy gydol yr wythnos gwelwyd o leiaf un Giach bach yn y tiroedd gwlyb. Gwelwyd y Trochydd Gyddfgoch yn bwydo ger Carreg yr Honwy. Roedd yna 3 ar yr 22ain a'r 23ain. Ar yr 22ain roedd yna Gwtiad Torchog yn Solfach, a gwelwyd Pibydd yr Aber yn dilyn haid o Gylfinir ar y 23ain. Roedd yna Tingoch Du y Mhen Cristin ar y 25ain ac un arall yn Henllwyn ar y 27ain.Daeth Cyffylog allan o'r rhedyn ar y mynydd ar y 27ain tra gwelwyd 16 Cwtiad Aur yn hedfan yn uchel dros yr ynys ar ddydd Sadwrn.Roedd y Dryw Penfflamgoch yn dal yng Ngristin fel arfer.

Dydd Llun Mawrth 1af, gwelwyd y Trochydd Gyddfgoch oddi ar yr ochr Orllewinol a Giach Fach yn y tiroedd gwlyb.Ar ol yr ysgol es i'r ardd a gwelais Farcud Coch yn cael ei erlid gan frain uwchben caeau Dyno Goch.Fe hedfanodd dros fy mhen ac i fyny tuag at Pen Cristin ond ni welwyd o wedyn.