04/12/2010

Yn anffodus nid oes llawer wedi bod yn defnyddio y safle yma ac felly rydym wedi penderfynu ar ol blwyddyn peidio cario ymlaen i gyfieithu. Diolch i'r rhai ohonoch sydd wedi bod yn ei ddefnyddio.

28/11/2010




Dydd Gwener Tachwedd 26ain.

Diwrnod tawelach na ddoe. Gwelwyd Cornchwiglen, 15 Mwyalchen, 14 Bronfraith, Coch dan Adain, Socan Eira.





Dydd Mercher Tachwedd 24ain.

Cafwyd storm o genllysg a glaw trwm heddiw. Bras yr Eira yn y rhan deheuol, Llydandroed Llwyd yn Henllwyn, Giach Fach yn y gwlybdir, Giach, 6 Giach Cyffredin. daliwyd y Dryw Penfflamgoch a oedd wedi ei fodrwyo yng ngwiail Cristin, Pibydd y Mawn, 26 Mwyalchen, 3 Socan Eira,12 Bronfraith, 15 Coch dan Adain, 37 Asgell Fraith, 4 Pinc y Mynydd, 2 Llinos werdd, 2 Pila Gwyrdd, 4 Nico, 2 Llinos, gwelwyd Gwylan Fach gyntaf ers peth amser, Gwylan Mor y Canoldir.











Dydd Mawrth Tachwedd 23ain.

Roedd heddiw yn ddiwrnod tawel a chlir. Mae'r Llydandroed Llwyd yn dal yn Henllwyn. Gwelwyd Tylluan Gorniog yn ngardd Cristin yn y pnawn, 2 Pinc y Mynydd, 2 Pila gwyrdd, 2 Llinos Bengoch, Bras y Cyrs, 13 Hwyaden Fwythblu, Trochydd Mawr y Gogledd, 3 Morhwyaden Ddu, 150 gwylan Benddu, gwylan Mor y Canoldir, 3 Gwylan Gyffredin, 14 Gwylan Goesddu, 300 Llurs.