14/11/2010
Dydd Sul Tachwedd 7ed.
Diwrnod braf ond oerach heddiw ac roedd yna lai o adar o gwmpas. Gwelwyd Trochydd Mawr y Gogledd a Trochydd Gyddfgoch yn y bore, Tylluan Glustiog, 55 Gwylan Benddu, 7 Gwylan Gyffredin, 72 Gwylan Goesddu, Gwylan Mor y Canoldir, 310 Llurs, 20 Hwyaden Ddu30 Asgell Fraith,18 Ehedydd, 28 Cor Hedydd y Waen, 4 Pinc y Mynydd, 3 Pila Gwyrdd, 5 Llinos Bengoch, 5 Bras y Cyrs yn Solfach drwy'r dydd, Clywyd Socan Eira ben bore a cofnodwyd 28, Tresglen, 13 Bronfraith, 14 Mwyalchen, 44 Coch dan Adain.
Dydd Sadwrn Tachwedd 6ed.
Tywydd gwell heddiw. Trochydd Mawr y Gogledd, Hwyaden Frongoch, 3 Hwyaden Fwythblu, 2 Gwylan Fach, Bras yr Eira, Dryw Penfflamgoch, 12 Dryw Eurben, 850 Drudwy, Bras y Cyrs, 90 Asgell Fraith, 7 Pinc y Mynydd, 15 Llinos Werdd, 6 Pila Gwyrdd.
Dydd Gwener Tachwedd 5ed.
Diwrnod gwell heddiw. Trochydd Gyddfddu, Elyrch y Gogledd, trochydd Mawr y Gogledd, 2 Aderyn Drycin y Graig, Aderyn Drycin Manaw, 3 Hwyaden Fwythblu, Hwyaden Ddu Gyffredin, Sgiwen y Gogledd, gwylan Mor y Canoldir, Gwylan Fach, 15 Ehedydd, Bras y Gogledd, 1080 Drudwy yn troelli o gwmpas yr ynys, 77 Asgell Fraith, 6 Pinc y Mynydd, 16 Llinos Werdd, Pila Gwyrdd.
Dydd Iau Tachwedd 4ydd.
2 Wylan Fach yn Solfach ac yn y bore gwelwyd Tylluan Wen.
Dydd Mercher Tachwedd 3ydd.
Mwy o dywydd annifyr heddiw ac yn wlyb, dim llawer i'w weld.Pibydd y Mawn, 11 Pila Gwyrdd, 3 Siff Saff, 5 Nico.
Dydd Mawrth Tachwedd 2il.
Dim llawer i'w weld yn enwedig am ei bod yn ddiwrnod annifyr heddiw. 2 Cogylfinir yn y rhan gogleddol, Gwylan fach, Mor Hwyaden Gyffredin, mae'r Telor Penddu yn dal yma o hyd.
Subscribe to:
Posts (Atom)